Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn (CRC)

Cytuniad y CU

Mae CRC yn gyfamod hawliau dynol rhyngwladol a fabwysiadwyd yn 1989. Fe gadarnhaodd (cytuno i ddilyn) y Deyrnas Unedig y CRC yn 1991. Trwy gadarnhau’r CRC, mae’r Deyrnas Unedig yn cytuno y dylai cyrff cyhoeddus ystyried buddiannau gorau’r plentyn wrth wneud unrhyw beth sy’n effeithio ar blant. Mae’r CRC yn diogelu hawliau plant ym mhob maes o’u bywydau, yn cynnwys eu hawliau i:

  • Fywyd, goroesiad a datblygiad
  • Ryddid rhag trais, camdriniaeth ac esgeulustod
  • Fynegi eu barn mewn materion sy’n effeithio arnynt, yn cynnwys achosion cyfreithiol
  • Addysg
  • Safon byw digonol

How the treaty is monitored

Mae gweithrediad y CRC yn cael ei fonitro gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Oddeutu pob pum mlynedd mae’r Pwyllgor yn adolygu pa mor dda mae pob gwladwriaeth yn rhoi hawliau’r CRC ar waith. Dysgwch fwy am y cylchoedd adolygu blaenorol. Mae chwe cham i gylch y cytuniad –  gweler cylch cytundeb CRC isod i gael rhagor o wybodaeth am bob cam.

Ymgysylltu a chyfranogiad

Gall sefydliadau cymdeithas sifil a rhanddeiliaid eraill ymgysylltu drwy gydol y cylch monitro cytuniadau. Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi darparu gwybodaeth ar sut i gyfranogi ar gyfer cymdeithas sifil ac ar gyfer plant. Mae canllawiau hefyd ar gael ar-lein i blant adrodd i’r Cenhedloedd Unedig ac i gyrff anllywodraethol sy’n mynd gyda phlant sy’n adrodd am CRC. Ein nod yw cefnogi sefydliadau cymdeithas sifil i ddeall ac ymgysylltu â’r broses fonitro. Er enghraifft, efallai y byddwn yn cynnal gweminarau neu drafodaethau bord gron, yn comisiynu sefydliadau i gynhyrchu adroddiadau ar ran y gymdeithas sifil ehangach, neu’n darparu cymorth ariannol i gynyddu cyfranogiad yn sesiynau tystiolaeth lafar y Cenhedloedd Unedig. Byddwn yn comisiynu hyd at uchafswm o un prosiect cymdeithas sifil fesul cylch. Yn fwyaf diweddar fe wnaethom ddarparu cyllid i Gynghrair Hawliau Plant Lloegr a Phlant yng Nghymru fel rhan o’r cylch adrodd blaenorol i gynhyrchu adroddiadau cymdeithas sifil ar gyfer Cymru a Lloegr.

Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn (CRC) treaty cycle

Mae cylch adolygu y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn (CRC) ar gam 6 ar hyn o bryd: Llywodraeth yn gweithredu argymhellion. Adroddir i’r Pwyllgor ar Hawliau’r Plentyn o dan y weithdrefn adrodd symlach. Mae’r amseriadau a roddir isod yn amcangyfrifon a gallant newid, yn enwedig o ganlyniad i oedi ac ôl-groniadau yn y Cenhedloedd Unedig. Gall amseriadau newid hefyd oherwydd cynlluniau’r Cenhedloedd Unedig i symud i gylch adolygu wyth mlynedd rhagweladwy ar gyfer pob corff cytuniad. Gall dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth gael eu cadarnhau gan y Cenhedloedd Unedig ar fyr rybudd, felly cynghorir rhanddeiliaid sy’n dymuno cyflwyno i baratoi ymlaen llaw.

Protocolau dewisol

Mae gan y CRC dri Protocol Dewisol, sy’n gyfamodau atodol yn darparu hawliau neu brosesau pellach. Mae’r Protocol Dewisol ar werthu plant, puteindra plant a phornograffi plant wedi ei gadarnhau gan y Deyrnas Unedig. Mae’r Protocol Dewisol ar gynnwys plant mewn gwrthdaro arfog wedi ei gadarnhau gan y Deyrnas Unedig. Mae’r trydydd Protocol Dewisol yn galluogi pobl i gwyno’n uniongyrchol i’r Pwyllgor ar Hawliau’r Plentyn os ydynt o’r farn y tramgwyddwyd ar eu hawliau. Dim ond unwaith y bydd pob opsiwn domestig wedi ddisbyddu y gellir ei ddefnyddio. Nid yw’r Deyrnas Unedig wedi cofrestru ar gyfer hyn.

Sylwadau cyffredinol

Diweddarwyd ddiwethaf ar 27/10/2023