Confensiwn yn erbyn Artaith a Thriniaeth neu Gosb Greulon, Annynol neu Israddol Arall (CAT)

Cytuniad y CU

Mae CAT yn gyfamod hawliau dynol rhyngwladol a fabwysiadwyd yn 1966. Fe gadarnhaodd (cytuno i ddilyn) y Deyrnas Unedig CAT yn 1988.

Trwy gadarnhau CAT, mae’r Deyrnas Unedig yn cytuno i weithredu i atal gweithredoedd artaith mewn perthynas â gweithgareddau sy’n cynnwys:

  • dychwelyd, alltudio neu estraddodi rhywun i wlad arall ble mae seiliau gwirioneddol i gredu y bydd wynebu artaith
  • arestio, cadw a charcharu
  • holiad
  • hyfforddi’r heddlu (sifil neu filwrol), staff meddygol, swyddogion cyhoeddus ac unrhyw un arall a allai fod yn ymwneud ag arestio, cadw a chwestiynu unigolyn

How the treaty is monitored

Mae gweithrediad y CAT yn cael ei fonitro gan y Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig (UN) yn erbyn Artaith. Oddeutu pob pum mlynedd mae’r Pwyllgor yn adolygu pa mor dda mae pob gwladwriaeth yn rhoi hawliau’r CAT ar waith. Dysgwch fwy am y cylchoedd adolygu blaenorol. Mae chwe cham i gylch y cytuniad – gweler cylch cytuniad CAT isod i gael rhagor o wybodaeth am bob cam. Ymgysylltu a chyfranogiad Gall sefydliadau cymdeithas sifil a rhanddeiliaid eraill ymgysylltu drwy gydol y cylch monitro cytuniadau. Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi darparu gwybodaeth ar sut i gymryd rhan.  Rydym wedi cynhyrchu canllaw i gymdeithas sifil gyda gwybodaeth ar sut i gymryd rhan. Ein nod yw cefnogi sefydliadau cymdeithas sifil i ddeall ac ymgysylltu â’r broses fonitro. Er enghraifft, efallai y byddwn yn cynnal gweminarau neu drafodaethau bord gron, yn comisiynu sefydliadau i gynhyrchu adroddiadau ar ran y gymdeithas sifil ehangach, neu’n darparu cymorth ariannol i gynyddu cyfranogiad yn sesiynau tystiolaeth lafar y Cenhedloedd Unedig. Byddwn yn comisiynu hyd at uchafswm o un prosiect cymdeithas sifil fesul cylch. Yn fwyaf diweddar fe wnaethom ddarparu cyllid i Wneud Iawn fel rhan o’r cylch adrodd blaenorol i gynhyrchu adroddiad cymdeithas sifil ar y cyd.

Confensiwn yn erbyn Artaith a Thriniaeth neu Gosb Greulon, Annynol neu Israddol Arall (CAT) treaty cycle

Mae’r cylch adolygu CAT ar hyn o bryd ar gam 3: rhanddeiliaid yn ymateb i restr o faterion. Adroddir i’r Pwyllgor yn Erbyn Artaith o dan y weithdrefn adrodd symlach. Mae’r amseriadau a roddir isod yn amcangyfrifon a gallant newid, yn enwedig o ganlyniad i oedi ac ôl-groniadau yn y Cenhedloedd Unedig. Gall amseriadau newid hefyd oherwydd cynlluniau’r Cenhedloedd Unedig i symud i gylch adolygu wyth mlynedd rhagweladwy ar gyfer pob corff cytuniad. Gall dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth gael eu cadarnhau gan y Cenhedloedd Unedig ar fyr rybudd, felly cynghorir rhanddeiliaid sy’n dymuno cyflwyno i baratoi ymlaen llaw.

Protocolau dewisol

Mae gan y CAT un Protocol Dewisol. Mae hyn yn gyfamod atodol sy’n sefydlu Is-bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Atal Artaith a mecanweithiau ataliol cenedlaethol (NPMs). Dan y Protocol Dewisol hwn, rhaid i lywodraethau sefydlu NPMs i fonitro triniaeth pobl sydd wedi eu hamddifadu o’u rhyddid, gyda’r bwriad o gryfhau amddiffyniad rhag artaith a chamdriniaeth. Mae hyn wedi ei gadarnhau gan y llywodraeth ac mae yna Fecanwaith Ataliol Cenedlaethol i’r Deyrnas Unedig.

Darganfod mwy am y Protocol Dewisol.

Datganiad dan Erthygl 22

Gall llywodraethau wneud datganiad dan Erthygl 22 y CAT. Mae hyn yn cytuno i adael i bobl wneud cwynion unigol i’r Pwyllgor yn erbyn Araith os ydynt yn credu y tramgwyddwyd ar eu hawliau. Dim ond pan fydd pob opsiwn domestig wedi ddisbyddu y gellir ei ddefnyddio. Nid yw’r Deyrnas Unedig wedi gwneud datganiad.

Sylwadau cyffredinol

Mae’r Pwyllgor yn erbyn Araith wedi cyhoeddi nifer o Sylwadau Cyffredinol ar y CAT. Mae’r rhain yn darparu manylion pellach ar sut ddylid dehongli hyn. Mae’r sylwadau hyn yn cwmpasu materion fel y goblygiad i’r Wladwriaeth gymryd camau effeithiol i atal artaith a hawl dioddefwyr artaith a chamdriniaeth i gael unioniad.

Diweddarwyd ddiwethaf ar 23/01/2024