Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (ICESCR)

Cytuniad y CU

Mae’r ICESCR yn gytuniad hawliau dynol rhyngwladol a fabwysiadwyd ym 1966. Fe gadarnhaodd (cytuno i ddilyn) y Deyrnas Unedig yr ICESCR ym 1976. Trwy gadarnhau’r ICESCR, mae’r Deyrnas Unedig yn cytuno i sicrhau mwynhad o hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol, yn cynnwys yr hawliau i:

  • addysg
  • amgylchiadau gwaith cyfiawn a theg
  • safon byw digonol
  • y safon iechyd gyflawnadwy uchaf
  • nawdd cymdeithasol

How the treaty is monitored

Mae gweithrediad yr ICESCR yn cael ei fonitro gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol. Oddeutu pob pum mlynedd mae’r Pwyllgor yn adolygu pa mor dda mae pob gwladwriaeth yn rhoi hawliau’r ICESCR ar waith. Dysgwch fwy am gylchoedd adolygu blaenorol. Mae chwe cham i gylch y cytuniad – gweler cylch cytuniad ICESCR isod i gael rhagor o wybodaeth am bob cam.

Ymgysylltu a chyfranogiad

Gall sefydliadau cymdeithas sifil a rhanddeiliaid eraill ymgysylltu drwy gydol y cylch monitro cytuniadau. Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi darparu gwybodaeth ar sut i gymryd rhan. Rydym wedi datblygu cyfres o wersi fideo a deunyddiau ysgrifenedig ar y cyd â Phrifysgol Nottingham i godi ymwybyddiaeth o hawliau cymdeithasol-economaidd. Ein nod yw cefnogi sefydliadau cymdeithas sifil i ddeall ac ymgysylltu â’r broses fonitro. Er enghraifft, efallai y byddwn yn cynnal gweminarau neu drafodaethau bord gron, yn comisiynu sefydliadau i gynhyrchu adroddiadau ar ran y gymdeithas sifil ehangach, neu’n darparu cymorth ariannol i gynyddu cyfranogiad yn sesiynau tystiolaeth lafar y Cenhedloedd Unedig. Byddwn yn comisiynu hyd at uchafswm o un prosiect cymdeithas sifil fesul cylch. Yn fwyaf diweddar, rhoesom gyllid i Just Fair fel rhan o’r cylch adrodd presennol i gynhyrchu adroddiad cymdeithas sifil ar y cyd.

Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (ICESCR) treaty cycle

Mae cylch adolygu y Cytuniad Rhyngwladol ar Hawliau Economiadd, Cymdeithasol a Diwylliannol (ICESCR) ar gam 3 ar hyn o bryd: Rhanddeiliaid yn ymateb i restr o faterion. Adroddir i’r Pwyllgor ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol o dan y weithdrefn adrodd safonol. Mae’r amseriadau a roddir isod yn amcangyfrifon a gallant newid, yn enwedig o ganlyniad i oedi ac ôl-groniadau yn y Cenhedloedd Unedig. Gall amseriadau newid hefyd oherwydd cynlluniau’r Cenhedloedd Unedig i symud i gylch adolygu wyth mlynedd rhagweladwy ar gyfer pob corff cytuniad. Gall dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth gael eu cadarnhau gan y Cenhedloedd Unedig ar fyr rybudd, felly cynghorir rhanddeiliaid sy’n dymuno cyflwyno i baratoi ymlaen llaw.

3. Rhanddeiliaid yn ymateb i restr o faterion

  • Bydd disgwyl i’r DU ymateb i’r Rhestr Materion erbyn 29 Mawrth 2024

  • Dylai rhanddeiliaid sydd am ymateb i’r Rhestr o Faterion gyflwyno eu hadroddiadau chwe wythnos cyn i’r DU gael ei harchwilio fan bellaf

  • Yn seiliedig ar yr amserlen bresennol, rydym yn amcangyfrif y bydd archwiliad y Cenhedloedd Unedig yn cael ei gynnal yn 2025 ar y cynharaf

Protocolau dewisol

Mae gan yr ICESCR un Protocol Dewisol. Mae hyn yn gyfamod ychwanegol sy’n galluogi pobl i gwyno’n uniongyrchol i’r Pwyllgor ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol os ydynt o’r farn y tramgwyddwyd ar eu hawliau. Dim ond pan fydd pob opsiwn domestig wedi ddisbyddu y gellir ei ddefnyddio. Nid yw wedi ei gadarnhau gan y Deyrnas Unedig.

Sylwadau cyffredinol

Mae’r Pwyllgor ar Hawliau Economaidd, Diwylliannol a Chymdeithasol wedi cyhoeddi nifer o Sylwadau Cyffredinol ar ICESCR. Mae’r rhain yn rhoi rhagor o fanylion am sut y dylid ei ddehongli, gan gwmpasu materion fel yr hawliau i addysg, gwaith a nawdd cymdeithasol.

Diweddarwyd ddiwethaf ar 19/03/2024