Canlyniadau iechyd a phrofiad yn y system gofal iechyd – Gweithredu’r llywodraeth
Camau gweithredu Llywodraeth y DU
- Ym Mawrth 2021, cadarnhaodd Llywodraeth y DU bod £63 biliwn wedi ei neilltuo ar gyfer iechyd a gwasanaethau gofal yn 2020–21 i daclo’r coronafeirws. Cadarnhaodd hefyd £1.65 biliwn ychwanegol i barhau â’r rhaglen cyflenwi brechlyn yn Lloegr sydd, ynghyd â’r cyllid a gyhoeddwyd yn Adolygiad Gwariant 2020, yn cadarnhau £22 biliwn yn 2021–22 i helpu’r gwasanaethau iechyd i fynd i’r afael â’r pandemig.
- Yn Chwefror 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gynigion ar gyfer Mesur Iechyd a Gofal i wella gofal iechyd a chymdeithasol.
- Yn Awst 2020, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gynlluniau i ddisodli Public Health England ag asiantaeth newydd a ddyluniwyd i ganolbwyntio ar amddiffyn iechyd y cyhoedd a chlefydau heintus, y National Institute for Health Protection.
- Ym Mai 2020, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gyllid o dros £22 miliwn i elusennau iechyd i’w galluogi i ateb y galw am gefnogaeth yn ystod y pandemig.
- Ym Mawrth 2020, pasiwyd Deddf y Coronafeirws 2020. Roedd yn galluogi cyn weithwyr gofal iechyd proffesiynol i ddychwelyd i’r gwaith, ac yn darparu ar gyfer mesurau iechyd cyhoeddus a chyfyngu ar asesiadau Gofal Iechyd Parhaus y GIG.
- Ym Mawrth 2020, derbyniodd yr NHS Funding Bill Gydsyniad Brenhinol ymgorffori £33.9 biliwn yn ychwanegol bob blwyddyn erbyn 2024 ar gyfer y GIG yn Lloegr. Roedd hyn yn dilyn cyhoeddiad setliad cyllido pum mlynedd a gyhoeddwyd yn 2018.
- Yng Ngorffennaf 2019, lansiodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad ar y cynigion yn ei phapur gwyrdd i fynd i’r afael ag achosion afiechyd y gellir ei atal yn Lloegr.
- Ym Mawrth 2019, penododd Llywodraeth y DU Gynghorydd Iechyd LGBT Cenedlaethol i gynghori ar wella’r gofal y mae pobl LGBT yn ei dderbyn wrth gyrchu gwasanaethau iechyd.
- Yn Ionawr 2019, cyhoeddodd Llywodraeth y DU Gynllun Tymor Hir y GIG sy’n ymroi i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a gwella deilliannau iechyd ar draws nifer o flaenoriaethau clinigol.
- Yn Ebrill 2017, sefydlwyd y Gangen Ymchwilio i Ddiogelwch Gofal Iechyd i ymchwilio i ddigwyddiadau a phryderon diogelwch cleifion mewn lleoliadau GIG yn Lloegr.
Darllenwch ein hasesiad o gynnydd Llywodraeth y DU ar ddeilliannau iechyd a phrofiadau yn y system gofal iechyd.
Gweithredoedd Llywodraeth Cymru
Mae gofal iechyd wedi’i ddatganoli i Lywodraeth Cymru.
- Yn Rhagfyr 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Sicrhau bod hawliau’n gweithio i bobl hŷn: canllawiau ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.
- Yn Nachwedd 2020, llofnododd Llywodraeth Cymru Femorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda Sefydliad Iechyd y Byd i hyrwyddo cydraddoldeb iechyd.
- Ym Medi 2020, sefydlodd Llywodraeth Cymru baratoadau’r Gaeaf gan y gwasanaethau iechyd a chymdeithasol mewn ymateb i’r pandemig.
- Ym Mehefin 2020, daeth y Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 yn gyfraith, yn cynnwys nodau i gryfhau ansawdd gofal ac ymgysylltu â dinasyddion. Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio dod â’r Ddeddf i rym yn 2022.
- Ym mis Gorffennaf 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru weledigaeth pum mlynedd ar gyfer Gofal Mamolaeth yng Nghymru.
- Ym Mawrth 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fuddsoddiad o £10 miliwn i wella deilliannau iechyd.
- Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi sawl cynllun sy’n cynnwys lleihau anghydraddoldebau iechyd ar gyfer gwahanol grwpiau: Cynllun Gweithredu Trawsryweddol (2016), a pholisi o’r enw Galluogi Sipsiwn, Roma, a Theithwyr (GRT) (2018), y rhaglen Anableddau dysgu gwella bywydau (2018), a Chynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches (2019).
- Yn 2018, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i fuddsoddi £192 miliwn arall yn 2019-20 i weithredu’r cynllun tymor hir ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
- Mae Deddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017 yn darparu ar gyfer gwneud rheoliadau ynghylch defnyddio ‘asesiadau effaith iechyd’ ar gyfer gweithredoedd neu benderfyniadau arfaethedig gan gyrff cyhoeddus, ond nid yw hyn mewn grym eto.
Darllenwch ein hasesiad o gynnydd Llywodraeth Cymru ar ddeilliannau iechyd a phrofiadau yn y system gofal iechyd.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 18/03/2021