Fframwaith cyfreithiol cydraddoldeb a hawliau dynol – camau gweithredu’r Llywodraeth

Camau llywodraeth

Camau gweithredu Llywodraeth y DU:

Darllenwch ein hasesiad o gynnydd Llywodraeth y DU parthed y fframwaith cyfreithiol cydraddoldeb a hawliau dynol.

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru: Mae Deddf Hawliau Dynol 1998 a Deddf Cydraddoldeb 2010 wedi eu cadw i Lywodraeth y DU. Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau o fewn Deddf Cydraddoldeb 2010 i greu is-ddeddfwriaethau a gall hefyd ddeddfu er mwyn ymgorffori hawliau dynol neu i ddarparu amddiffyniadau hawliau dynol ychwanegol mewn perthynas â materion sydd wedi eu datganoli.

  Darllenwch ein hasesiad o gynnydd Llywodraeth y DU parthed y fframwaith cyfreithiol cydraddoldeb a hawliau dynol. Mae’r rhestr hon yn grynodeb o’r prif gamau gweithredu ac ni fwriedir iddi fod yn hollgynhwysfawr.

Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 10/12/2022