Addysg, hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth mewn perthynas â hawliau dynol – asesiad Llywodraeth Cymru

Asesiad cynnydd

Cynnydd cyfyngedig

Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol, ond mae tystiolaeth gyfyngedig iawn o welliannau parhaus o ran mwynhad hawliau dynol ar y mater hwn.

Gwnaed nifer o newidiadau deddfwriaethol a newidiadau polisi i gynyddu addysg ac ymwybyddiaeth o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP), gan gynnwys Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) a hyfforddiant i swyddogion Llywodraeth Cymru ar hawliau plant. Fodd bynnag, nid yw’r cwricwlwm newydd wedi cael ei roi ar waith eto felly mae’n rhy gynnar i asesu effaith y newidiadau cwricwlaidd yn llawn. Er y gwnaed cynnydd penodol mewn perthynas â hawliau plant, mae diffyg dealltwriaeth o hawliau dynol o hyd ac ni wnaed cynnydd o ran meithrin ymwybyddiaeth ehangach o hawliau dynol.

Darllenwch fwy am gamau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar addysg, hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth mewn perthynas â hawliau dynol.

Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 12/07/2021