Addysg, hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth mewn perthynas â hawliau dynol – asesiad Llywodraeth y DU

Asesiad cynnydd

Dim cynnydd

Ni chafwyd unrhyw newidiadau cyfreithiol na pholisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol o ran y mater hwn, a thystiolaeth gyfyngedig iawn sydd o’r cynnydd o ran mwynhad o'r hawliau hyn.

Er y gall cyflwyno addysg rhyw a pherthnasoedd (RSE) orfodol greu cyfleoedd pellach i ysgolion addysgu plant am hawliau dynol, nid oes angen trefniadau penodol i addysgu am hawliau dynol o fewn y cwricwlwm RSE. Nid oes gan athrawon ddigon o wybodaeth am hawliau dynol ac ni all y rhan fwyaf o blant yn Lloegr gael addysg seiliedig ar hawliau o hyd. Yn ogystal, mae Llywodraeth y DU wedi methu â chodi ymwybyddiaeth o hawliau dynol yn ddigonol na darparu hyfforddiant i swyddogion cyhoeddus.

Darllenwch fwy am gamau Llywodraeth y DU ar addysg, hyfforddiant a chodi ymwybyddiaeth mewn perthynas â hawliau dynol.

Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 12/07/2021