Amodau gwaith cyfiawn a theg – asesiad Llywodraeth Cymru

Asesiad cynnydd

Cynnydd cyfyngedig

Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol, ond mae tystiolaeth gyfyngedig iawn o welliannau parhaus o ran mwynhad hawliau dynol ar y mater hwn.

Mae cyflogaeth yn bennaf yn fater a gadwyd yn ôl, sy’n cyfyngu ar y camau y gall Llywodraeth Cymru gymryd. Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd rhai camau polisi a chyfreithiol i ddarparu gwaith teg yng Nghymru, gan arddangos bwriad i ddefnyddio ei rymoedd a lifrau datganoledig i hyrwyddo ac annog amodau gwaith cyfiawn a theg. Fodd bynnag, hyd yma ni chafwyd gwelliannau parhaus mewn deilliannau: mae gwaith cyflog isel yn dal i gynyddu, bylchau cyflog ar sail ethnigrwydd ac anabledd yn parhau, ac mae yna dystiolaeth o fwlio ac aflonyddu yn y gweithle. 

  • Mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau mewn enillion fesul awr canolrifol ar gyfer cyflogeion llawn amser yn is yng Nghymru nag yn y Deyrnas Unedig yn gyffredinol, ac mae wedi lleihau ers 2016. Dengys data newydd ar y bwlch cyflog ethnigrwydd fod cyflogeion o grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn ennill, ar gyfartaledd, tua 7.5% yn llai yr awr na chyflogeion gwyn Prydeinig. Mae cyfartaledd enillion hefyd yn is ar gyfer pobl anabl na phobl nad ydynt yn anabl.
  • Mae yna dystiolaeth fod y ganran o bobl mewn gwaith cyflog isel yng Nghymru yn cynyddu – yn 2019, roedd mwy nag un o bob pump cyflogai yng Nghymru yn cael eu talu llai na’r gwir gyflog byw, gan godi i fwy nag un traean o gyflogeion mewn rhai etholaethau yng Nghymru.
  • Mae yna dystiolaeth o driniaeth annheg, bwlio ac aflonyddu mewn gweithfannau yng Nghymru – er enghraifft, mae 26% o bobl yng Nghymru wedi profi ymddygiad rhywiol digroeso yn y gwaith, a saith o bob 10 o famau wedi cael profiad negyddol neu a allai fod yn wahaniaethol yn ystod beichiogrwydd neu absenoldeb mamolaeth, neu ar ddychwelyd o absenoldeb mamolaeth.
  • Yng Nghymru, fel gyda rhannau eraill o Brydain, mae pandemig y coronafeirws wedi effeithio ar amodau gwaith, yn arbennig ar gyfer grwpiau nodweddion gwarchodedig penodol. Mynegwyd pryderon bod y rhai sy’n gweithio mewn iechyd a gofal cymdeithasol (gweithwyr benywaidd a lleiafrifoedd ethnig yn bennaf) wedi ei rhoi dan risg trwy’r ddarpariaeth annigonol o Offer Amddiffyn Personol.
  • Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru arweiniad i Gadw Cymru yn ddiogel yn y gwaith yn ystod y pandemig, ond ni wnaeth fabwysiadu’r model cymdeithasol o anabledd yn wreiddiol ac ni thalodd lawer o sylw i egwyddorion cydraddoldeb a hawliau dynol, gyda’r arweiniad diwygiedig heb ddelio’n llawn â’r pryderon hyn.
  • Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd rhai camau positif i symud ymlaen gyda pholisi a chyfreithiau i ddarparu gwaith teg yng Nghymru, yn cynnwys cyflwyno’r Contract Economaidd, yn gofyn i fusnesau sy’n ceisio buddsoddiad i arddangos eu hymroddiad i waith teg – mae angen rhagor o waith i uchafu potensial y cyfle hwn.
  • Er bod yn Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus– yn benodol y ddyletswydd ar gyfer caffael – botensial i hybu egwyddorion gwaith yng Nghymru, nid yw’r ddyletswydd wedi arwain at y newid trawsnewidiol a fwriadwyd.
  • Mae adolygiad o Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru wedi ei ohirio oherwydd y pandemig.

Darllenwch fwy am weithredoedd Llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru ar amodau teg a chyfiawn yn y gwaith.

Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 15/09/2020