Canlyniadau iechyd a phrofiad yn y system gofal iechyd – asesiad Llywodraeth y DU
Cynnydd cyfyngedig
Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol, ond mae tystiolaeth gyfyngedig iawn o welliannau parhaus o ran mwynhad hawliau dynol ar y mater hwn.
Sefydlodd Llywodraeth y DU nifer o gamau i leihau anghydraddoldebau iechyd a gwella canlyniadau yng Nghynllun Tymor Hir y GIG. Mae ymateb y GIG i bandemig y coronafeirws wedi bod yn sylweddol, er bod dargyfeirio adnoddau wedi arwain at ostyngiadau yn y ddarpariaeth gwasanaeth sydd wedi cael effaith negyddol ar ganlyniadau iechyd. Mae’r anghydraddoldebau sydd wedi hen ymwreiddio mewn canlyniadau iechyd a phrofiad ar gyfer gwahanol grwpiau wedi cael eu gwaethygu gan y pandemig.
- Ers 2010, mae cynnydd mewn disgwyliad oes wedi arafu, yn enwedig mewn ardaloedd mwy difreintiedig. Mae anghydraddoldebau o ran disgwyliad oes wedi bod yn tyfu ymhlith rhai grwpiau, yn enwedig menywod.
- Ar gyfartaledd, mae disgwyliad oes menywod a dynion ag anabledd dysgu 18 mlynedd a 14 mlynedd yn fyrrach nag ar gyfer menywod a dynion nad ydynt yn anabl, yn y drefn honno.
- Cyn y pandemig, roedd anghydraddoldebau hirsefydlog a chroestoriadol mewn canlyniadau iechyd. Mae gan bobl gydag anableddau dysgu, ffoaduriaid a cheiswyr lloches, pobl drawsrywiol, grwpiau lleiafrifoedd ethnig penodol yn cynnwys Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a phobl ddigartref ganlyniadau iechyd corfforol a meddyliol gwaeth o gymharu â’r boblogaeth yn gyffredinol.
- Mae marwolaethau sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd a genedigaeth wedi gostwng er 2010, ond mae marwolaethau menywod o leiafrifoedd ethnig yn parhau i fod yn uwch na menywod Gwyn.
- Dengys tystiolaeth atchweliad mewn rhai dangosyddion iechyd i blant. Mae gordewdra plant a derbyniadau i’r ysbyty am ddiffyg maeth yn parhau i gynyddu, mae tystiolaeth o rai cyfraddau brechu yn gostwng, ac mae tystiolaeth newydd yn dangos mai’r DU sydd â’r gyfradd uchaf o asthma plentyndod a achosir gan lygredd aer yn Ewrop.
- Yn Awst 2020, canfu Public Health England bod y pandemig wedi dyblygu anghydraddoldeb iechyd presennol ac mewn rhai achosion wedi eu gwaethygu.
- Mae’r risg o farw o COVID-19 yn ystod ton gyntaf y pandemig yn uwch ymhlith pobl hŷn, pobl anabl, lleiafrifoedd ethnig, a’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig. Amcangyfrifwyd bod y gyfradd marwolaeth ymhlith pobl ag anableddau dysgu yn Lloegr hyd at chwe gwaith yn uwch na’r boblogaeth ehangach.
- Er bod Deddf y Coronafeirws 2020 wedi galluogi cyn weithwyr gofal iechyd proffesiynol i ddychwelyd i’r gwaith, mae staff meddygol, cyfleusterau a chyllid wedi cael eu dargyfeirio yn ystod y pandemig i fynd i’r afael ag achosion gofal critigol COVID-19. Mae’r effaith ar ddarpariaeth gofal iechyd arall wedi effeithio’n arbennig ar unigolion sy’n rhannu rhai nodweddion gwarchodedig.
- Yn 2019–20 asesodd y Comisiwn Ansawdd Gofal, cyn y pandemig, fod, pobl yn Lloegr yn derbyn gofal a oedd ‘o ansawdd da yn bennaf’’. Fodd bynnag, roedd anghydraddoldebau parhaus, gan gynnwys y rhai a oedd yn effeithio ar bobl o rai grwpiau lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl, pobl o rai grwpiau crefyddol, a phobl nad Saesneg yw eu hoff iaith.
- Er y sefydlwyd gofyniad yn y Canllawiau Cenedlaethol i ymddiriedolaethau’r GIG yn Lloegr i adrodd ar farwolaethau sy’n digwydd oherwydd methiannau gofal yn eu hadeiladau, nid yw’r ddyletswydd yn gofyn am gasglu data yn ôl nodwedd warchodedig, a fyddai’n helpu i nodi anghymesuredd.
- Yn 2019–20, roedd 23% o achosion a godwyd gyda Gwarcheidwaid Rhyddid i Siarad yn cynnwys elfen o ddiogelwch / ansawdd cleifion, gyda 36% yn cynnwys elfen o fwlio ac aflonyddu.
- Mae’r symudiad tuag at ddarparu mwy o ofal trwy apwyntiadau digidol a ffôn yn ystod y pandemig wedi cael derbyniad cadarnhaol gan lawer o bobl. Fodd bynnag, mae wedi creu rhwystrau hygyrchedd i’r rhai sydd wedi’u gwahardd yn ddigidol.
- Mae Cynllun Tymor Hir y GIG yn ymrwymo i wella canlyniadau ar draws nifer o flaenoriaethau clinigol. Mae’n rhy gynnar i asesu ei effaith a bydd angen data wedi’i ddadgyfuno i ddangos cynnydd ar gyfer grwpiau nodweddiadol gwarchodedig.
Darllenwch fwy am gamau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar ddeilliannau iechyd a phrofiadau yn y system gofal iechyd.