Cydweithrediad rhyngwladol, gan gynnwys gyda mecanweithiau hawliau dynol – asesiad Llywodraeth y DU
Dim cynnydd
Ni chafwyd unrhyw newidiadau cyfreithiol na pholisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol o ran y mater hwn, a thystiolaeth gyfyngedig iawn sydd o’r cynnydd o ran mwynhad o'r hawliau hyn.
Mae ceisio cael ei ailethol i’r Cyngor Hawliau Dynol a darparu cyllid ar gyfer Fforwm y Gymanwlad o Sefydliadau Hawliau Dynol Cenedlaethol yn dangos ymrwymiad parhaus i gydweithrediad hawliau dynol. Fodd bynnag, mae oedi wrth adrodd o dan rai mecanweithiau hawliau dynol rhyngwladol, derbyniad isel i ganfyddiadau ac argymhellion adolygiadau’r Cenhedloedd Unedig, a diffyg gweithredu i sefydlu mecanwaith monitro a gweithredu cenedlaethol, yn tanseilio hyn. Mae’r gostyngiad dros dro mewn cymorth datblygu tramor ac uno adran gyfrifol y llywodraeth â’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn codi cwestiynau ynghylch ymrwymiad rhyngwladol y DU i wella hawliau dynol.
- Yn Hydref 2020, cafodd Llywodraeth y DU ei hail-ethol i Gyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig yn dilyn ymgyrch dros flwyddyn, gan ddarparu llwyfan iddi eiriol dros hawliau dynol yn fyd-eang.
- Mae cyllid ar gyfer Cadeirydd Fforwm y Gymanwlad o Sefydliadau Hawliau Dynol Cenedlaethol (NHRIs) wedi cefnogi gwaith adeiladu gallu ar gyfer NHRIs y Gymanwlad, gan gynnwys ar gyfeiriadedd rhywiol a hawliau hunaniaeth rhyw.
- Nid yw Llywodraeth y DU wedi sefydlu mecanwaith cenedlaethol i fonitro gweithrediad argymhellion a chydlynu adrodd i fecanweithiau hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig, er gwaethaf nifer o argymhellion y dylai wneud hynny. Mae hyn yn rhwystro craffu, ac yn cyfyngu ar allu’r Llywodraeth i weithredu darpariaethau ac argymhellion hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig yn effeithiol yn unol â’i rhwymedigaethau hawliau dynol.
- Er bod Llywodraeth y DU wedi cyflwyno sawl adroddiad i fecanweithiau hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig rhwng 2017 a 2020, mae’r pandemig coronafeirws wedi cyfrannu at oedi wrth adrodd, gan gynnwys oedi i adroddiad y DU ar y Confensiwn ar Ddileu pob math o Wahaniaethu ar sail Hil (CERD) a’r diweddariad gwirfoddol tymor canolig ar yr Adolygiad Cyfnodol Cyffredinol (UPR).
- Yn 2017, derbyniodd Llywodraeth y DU ddim ond 42% (96 allan o 227) o argymhellion UPR, lleihad o 54.5% (72 allan o 132) yn 2012.
- Ni dderbyniodd Llywodraeth y DU a’r argymhellion gan UPR 2017 i ystyried cadarnhau’r Confensiwn Rhyngwladol ar Ddiogelu Hawliau Pob Gweithiwr Mudol ac Aelodau o’u Teuluoedd a’r Confensiwn Rhyngwladol ar gyfer Amddiffyn Pob Un rhag Diflaniad Gorfodedig.
- Nid yw Llywodraeth y DU wedi cytuno y gall y Cenhedloedd Unedig dderbyn cwynion gan unigolion o dan CERD, y Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol, y Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol, y Cyfamod yn erbyn artaith, na’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn, gan gyfyngu ar yr iawn o dorri amodau hawliau dynol.
- Yn 2019, heriodd Llywodraeth y DU yr adroddiad gan Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar dlodi eithafol a hawliau dynol, a ddywedodd fod polisïau cyni’r Llywodraeth “yn gyfystyr â mesurau atchweliadol yn groes yn glir i rwymedigaethau hawliau dynol y wlad”, gan honni ei bod wedi paentio “ llun hollol anghywir ”. Gwrthododd hefyd awgrym y Rapporteur Arbennig ar ffurfiau cyfoes o hiliaeth, gwahaniaethu ar sail hil, senoffobia ac anoddefgarwch cysylltiedig bod rhai o’i bolisïau’n gwaethygu anghydraddoldeb hiliol.
- Mae Llywodraeth y DU yn adrodd ar gynnydd o ran cwrdd â rhai Nodau Datblygu Cynaliadwy, fel addysg, ond mae’n nodi bod angen iddi gymryd camau pellach i eraill, fel tai.
- Mae’r gostyngiad dros dro mewn cymorth datblygu tramor a gyhoeddwyd yn Adolygiad Gwario 2020 yn peri risgiau i ystod o hawliau dynol, gyda rhanddeiliaid yn arbennig o bryderus am effeithiau negyddol ar hawliau menywod a merched.
- Bydd ymadawiad y DU o’r Undeb Ewropeaidd yn effeithio ar gyfranogiad y DU mewn mecanweithiau cydweithredu Ewropeaidd ar bolisi tramor, datblygu, diogelwch a chydweithrediad cyfiawnder troseddol.
Darllenwch fwy am gamau Llywodraeth y DU ar gydweithrediad rhyngwladol, gan gynnwys mecanweithiau hawliau dynol.