Cyfiawnder ieuenctid – asesiad Llywodraeth y DU
Dim cynnydd
Ni chafwyd unrhyw newidiadau cyfreithiol na pholisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol o ran y mater hwn, a thystiolaeth gyfyngedig iawn sydd o’r cynnydd o ran mwynhad o'r hawliau hyn.
Mae nifer y plant yn y ddalfa wedi parhau i ostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf, er bod y gostyngiad yn y niferoedd wedi arafu ers 2016. I’r rhai yn y system cyfiawnder ieuenctid mae’r defnydd o rym, cyfyngu ar ei ben ei hun, trais a hunan-niweidio yn gyffredin. Mae isafswm oedran cyfrifoldeb troseddol yn parhau i fod yn anghyson â safonau rhyngwladol. Mae plant o leiafrifoedd ethnig yn cael eu gorgynrychioli yn y ddalfa, mae’r defnydd o ataliaeth sy’n achosi poen yn parhau, ac mae’r defnydd o remand wedi cynyddu.
- Yng Nghymru a Lloegr, isafswm oedran cyfrifoldeb troseddol yw 10 o hyd, sy’n sylweddol is na’r mwyafrif o wledydd Ewrop ac sy’n anghyson â safonau hawliau dynol rhyngwladol, sy’n galw am isafswm oedran o 14.
- Er bod nifer y plant yn y ddalfa wedi gostwng dros y degawd diwethaf, mae’r cyfraddau wedi arafu’n sylweddol ers 2016 ac mae pryderon nad yw’r ddalfa’n cael ei defnyddio fel dewis olaf o hyd, yn unol ag argymhellion y Cenhedloedd Unedig.
- Mae plant du, a bechgyn, yn cael eu gorgynrychioli yn y ddalfa. Roedd y gostyngiad cyffredinol yn y boblogaeth o garchar yn cael ei yrru i raddau helaeth gan ostyngiad yn nifer y plant Gwyn yn y ddalfa, gyda phlant Du yn cynrychioli 28% o’r boblogaeth garcharu erbyn 2020, cynnydd o 7% ers 2016.
- Mae llawer o blant yn y ddalfa yn treulio amser cyfyngedig allan o’u celloedd. Mae’r amser hwn wedi lleihau ymhellach oherwydd cyfyngiadau coronafeirws (COVID-19), sydd wedi golygu defnydd eang o garchariad unigol, am hyd at 22 awr y dydd, yn groes i safonau hawliau dynol.
- Er gwaethaf deddfwriaeth i ryddhau pobl o’r ddalfa yn ystod y pandemig, erbyn Mawrth 2021, nid oedd unrhyw blant wedi’u rhyddhau o dan y cynllun. Ni wnaeth y fframwaith ar gyfer agor carchardai bron unrhyw gyfeiriad at anghenion penodol pobl ifanc.
- Mae COVID-19 wedi arwain at newidiadau gan gynnwys diffyg cyswllt teuluol, addysg gyfyngedig a llai o graffu annibynnol. Mae pryderon am yr effaith ar blant, gan gynnwys ar eu hiechyd meddwl.
- Mae cyfraddau ymosod yn y ddalfa ieuenctid wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae bwlio yn gyffredin ac nid yw llawer o blant yn teimlo’n ddiogel, yn enwedig y rheini ag anableddau a phlant o gymunedau teithwyr. Mae cyfraddau hunan-niweidio yn uchel, yn enwedig ar gyfer merched, gyda’r cyfraddau cyffredinol yn cynyddu rhwng 2016 a 2020.
- Mae’r defnydd o rym yn y ddalfa yn uchel, gyda’r cyfraddau’n cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Nododd adolygiad diweddar or-ddefnyddio ataliaeth yn eang. Gall hyn gynnwys technegau ysgogi poen, y mae Llywodraeth y DU wedi methu â’u gwahardd er gwaethaf galwadau i wneud hynny gan y Cenhedloedd Unedig.
- Mae pryderon bod remand ar gyfer plant yn cael ei or-ddefnyddio, a bod cyfraddau wedi codi ers 2017. Mae tua un traean y plant yn y ddalfa yn cael eu cadw ar remand, ond nid yw dwy ran o dair o’r rhain yn derbyn dedfryd o garchar.
- Mae deddfwriaeth newydd i ddiwygio’r system cofnodion troseddol wedi ei groesawu. Fodd bynnag, mae’r drefn ar gyfer datgelu cofnodion troseddol ieuenctid yn parhau i fod yn debyg i’r drefn a ddefnyddir ar gyfer oedolion. Gall troseddau a gyflawnir gan blant aros ar eu cofnod troseddol am oes, gan gael effaith sylweddol ar eu dyfodol.
- Yn 2020, cyhoeddodd Swyddfa’r Cabinet ei Adroddiad Blynyddol ar Brosiectau Mawr a rhoddodd statws Ambr / Coch i raglen diwygio cyfiawnder ieuenctid y Llywodraeth, sy’n golygu bod amheuaeth ynghylch cyflawni’r prosiect yn llwyddiannus.
- Er gwaethaf ymrwymo i adeiladu dwy ysgol ddiogel yn dilyn Adolygiad Taylor, mae’r cynnydd wedi bod yn gyfyngedig ac ni fwriedir i’r ysgol gyntaf agor tan 2022. Erys pryderon ynghylch y penderfyniad i dreialu hyn yng Nghanolfan Hyfforddi Ddiogel Medway, gyda’i hanes problemus a’i ddimensiynau tebyg i garchardai.
Darllenwch fwy am gamau Llywodraeth y DU ar gyfiawnder ieuenctid.