Cyfranogiad gwleidyddol a dinesig, gan gynnwys cynrychiolaeth weleidyddol –asesu Llywodraeth y DU

Asesiad cynnydd

Dim cynnydd

Ni chafwyd unrhyw newidiadau cyfreithiol na pholisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol o ran y mater hwn, a thystiolaeth gyfyngedig iawn sydd o’r cynnydd o ran mwynhad o'r hawliau hyn.

Mae menywod, lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl yn parhau i gael eu tangynrychioli mewn gwleidyddiaeth, ac mae data amrywiaeth yn annigonol, er bod y nifer o ASau benywaidd yn Senedd y DU yn parhau i godi. Mae ymgeiswyr sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig penodol yn destun difrïo a bygythiadau anghymesur, ac mae angen cyllid hirdymor er mwyn sicrhau cyfranogiad cyfartal pobl anabl. Ceir pryderon hefyd y bydd gofynion newydd dulliau adnabod i bleidleiswyr yn ei gwneud yn anoddach i rai pobl bleidleisio.

Darllenwch ragor ynglŷn â chamau gweithredu Llywodraethau’r DU a Chymru parthed cyfranogiad gwleidyddol a dinesig, gan gynnwys cynrychiolaeth weleidyddol.

Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 10/12/2022