Cyfranogiad gwleidyddol a dinesig, yn cynnwys cynrychiolaeth wleidyddol – asesiad Llywodraeth y DU
Dim cynnydd
Ni chafwyd unrhyw newidiadau cyfreithiol na pholisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol o ran y mater hwn, a thystiolaeth gyfyngedig iawn sydd o’r cynnydd o ran mwynhad o'r hawliau hyn.
Mae menywod, lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl yn parhau i gael eu tangynrychioli mewn gwleidyddiaeth ac mae data amrywiaeth yn annigonol, er bod nifer y menywod sy’n ASau yn Senedd y DU wedi parhau i gynyddu. Mae ymgeiswyr sy’n rhannu rhai nodweddion gwarchodedig yn anghymesur yn destun camdriniaeth a bygwth, ac mae angen cyllid tymor hir i sicrhau cyfranogiad cyfartal pobl anabl. Er y bu cynnydd o ran cynyddu cyfran y menywod a benodwyd yn gyhoeddus o leiafrifoedd ethnig, nid yw pobl anabl wedi gweld cynnydd cymharol. Mae pryderon y bydd gofynion ID pleidleisiwr newydd arfaethedig yn ei gwneud yn anoddach i rai pobl bleidleisio.
- Er bod y prif bleidiau gwleidyddol yn gwneud rhywfaint o gynnydd tuag at grŵp mwy amrywiol o ymgeiswyr, mae diffyg amrywiaeth mewn cynrychiolaeth wleidyddol yn parhau i fod yn bryder. Mae menywod, pobl anabl a phobl o leiafrifoedd ethnig yn parhau i fod heb gynrychiolaeth ddigonol ymysg ymgeiswyr seneddol, ASau a chynghorwyr lleol.
- Mae bylchau yn y data ar amrywiaeth ASau oherwydd nad yw’n cael ei gasglu’n systematig. Nid yw Llywodraeth y DU wedi gweithredu adran 106 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i bleidiau gwleidyddol gasglu a chyhoeddi data amrywiaeth ymgeiswyr.
- Mae canfyddiadau gwael y cyhoedd o wleidyddiaeth a bygwth seneddwyr yn rhwystrau i amrywiaeth mewn cynrychiolaeth wleidyddol. Mae menywod, lleiafrifoedd ethnig a chrefyddol, ac ymgeiswyr seneddol LGBT yn destun bygythiad anghymesur, ac mae tystiolaeth bod ASau benywaidd Du ac Asiaidd yn derbyn mwy o gam-drin anghymesur ar-lein nag ASau menywod gwyn.
- Nid yw Llywodraeth y DU wedi darparu cynllun yn lle’r Gronfa Mynediad i Swyddfa Etholedig ar gyfer pobl anabl, a ddaeth i ben yn 2015. Croesawyd sefydlu’r Gronfa EnAble dros dro, a oedd yn rhedeg tan 2020, ond mae angen cyllid cynaliadwy tymor hir i sicrhau bod pobl anabl. yn gallu sefyll am swydd etholedig.
- Ni all pobl o dan 18 oed bleidleisio yn etholiadau Seneddol y DU nac etholiadau lleol yn Lloegr. Nid oes gan Lywodraeth y DU unrhyw gynlluniau i ostwng yr oedran pleidleisio.
- Er gwaethaf cynnydd yn y nifer a bleidleisiodd mewn etholiad cyffredinol yn Lloegr o 66.0% yn 2015 i 69.1% yn 2017, gostyngodd i 67.5% yn 2019. Mae pobl iau a lleiafrifoedd ethnig yn llai tebygol o bleidleisio. Mae pobl anabl yn fwy tebygol o fod ar y gofrestr etholiadol, ond maent yn profi rhwystrau i bleidleisio.
- Mae pryderon y bydd cyflwyno’r gofynion adnabod pleidleiswyr yn ei gwneud hi’n anoddach i bobl bleidleisio ac y bydd yn effeithio’n anghymesur ar leiafrifoedd ethnig, ifanc ac oedrannus.
- Derbyniodd Pwyllgor Gweinidogion Cyngor Ewrop gynnig Llywodraeth y DU i ganiatáu i garcharorion ar drwydded dros dro bleidleisio i fod yn cydymffurfio â dyfarniad Llys Hawliau Dynol Ewrop yn Hirst v Y Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, erys pryderon ynghylch a yw’r dull cyfyngedig hwn yn cwrdd â rhwymedigaethau Llywodraeth y DU i sicrhau’r hawl i bleidleisio o’i chymryd ochr yn ochr â’r angen i sicrhau bod carcharorion yn cael eu hadsefydlu.
- Yn 2019‒20, roedd cyfran y menywod a benodwyd yn gyhoeddus yn fwy na 50% am y tro cyntaf, ac mae cyfran gyffredinol yr apwyntiadau cyhoeddus i bobl o leiafrifoedd ethnig yn parhau i dyfu.
- Ni fu cynnydd cymharol o ran penodiadau cyhoeddus pobl anabl. Canfu adroddiad dilynol ym mis Rhagfyr 2020 i Adolygiad yr Arglwydd Holmes mai dim ond dau o’r 25 ymrwymiad oedd Llywodraeth y DU wedi’u cwblhau’n llawn o’i Chynllun Gweithredu Amrywiaeth 2019.
- Mae pryderon ynghylch y diffyg amrywiaeth yn y Llywodraeth ac ymgynghoriad ystyrlon â grwpiau sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys pobl anabl a rhai dan18, mewn gwneud penderfyniadau yn ymwneud â’r pandemig coronafeirws.
Darllenwch fwy am gamau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar gyfranogiad gwleidyddol a dinesig, gan gynnwys cynrychiolaeth wleidyddol.