Fframwaith cyfreithiol cydraddoldeb a hawliau dynol – asesiad Llywodraeth Cymru
Cynnydd cyfyngedig
Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol, ond mae tystiolaeth gyfyngedig iawn o welliannau parhaus o ran mwynhad hawliau dynol ar y mater hwn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gryfhau’r fframwaith cyfreithiol cydraddoldeb a hawliau dynol, ond mae tystiolaeth o ganlyniadau cadarnhaol parhaus i bobl yng Nghymru yn gyfyngedig. O fewn ei setliad datganoli, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynlluniau i gychwyn y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, yn ogystal ag ystyried sut i gryfhau Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus ac ymgorffori cyfamodau hawliau dynol ymhellach. Fodd bynnag, mae rhai ymrwymiadau’n parhau i fod heb eu cyflawni a bu dull anwastad o weithredu.
- Er bod Deddf y Coronafeirws 2020 yn cynnwys darpariaethau sy’n gwanhau amddiffyniadau hawliau dynol yng Nghymru, gan gynnwys dileu’r ddyletswydd ar awdurdodau lleol i ddiwallu anghenion oedolion sydd angen gofal a chefnogaeth, ni chydsyniodd Llywodraeth Cymru i’r rhain ymestyn i ofal a chefnogaeth i blant. Yn dilyn ymgynghori, mae Llywodraeth Cymru wedi atal yr addasiadau i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru 2014 yn chwarter cyntaf 2021.
- Er bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi datganiadau yn egluro sut mae unrhyw ymyrraeth hawliau dynol yn y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws) (Cymru) wedi eu cyfiawnhau, nid yw wedi darparu asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb digonol (fel sy’n ofynnol dan y rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011) nac asesiadau effaith hawliau plant (fel sy’n ofynnol danFesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011).
- Nid oes mecanwaith monitro hawliau dynol yn Llywodraeth Cymru i fonitro cynnydd a sicrhau bod argymhellion y Cenhedloedd Unedig yn cael eu gweithredu.
- Ym mis Ionawr 2019, cytunodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyda’r teimladau y tu ôl i’r Mesur Pobl Hŷn ar gryfhau hawliau pobl hŷn yn y gyfraith, ond ni chytunodd ag ymroi’r hyn a ddisgrifiodd fel dull “tameidiog” o weithredu i ddeddfwriaeth.
- Gosododd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 fframwaith uchelgeisiol i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru ac ystyried effaith hirdymor penderfyniadau. Mae potensial iddo wella’r fframwaith hawliau dynol presennol, ond ni chryfhaodd y Ddeddf hawliau unioni unigol na sefydlu materion hawliau dynol i weithredu arnynt. Mae Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2020 yn canfod bod y rhan fwyaf o gyrff cyhoeddus yn symud ymlaen gyda gweithredu, ond mae angen ymgorffori’r Ddeddf ymhellach.
- Ymgorfforodd Llywodraeth Cymru sylw dyledus i hawliau plant ym Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Casglodd ymchwil yn 2018 bod y Mesur wedi cael effaith ar sut mae hawliau plant yn cael eu hystyried wrth ddatblygu polisi, ond mae diffyg dealltwriaeth o hyd ar draws Llywodraeth Cymru ac ymhlith gweinidogion Cymru ar rwymedigaethau’r Mesur, gan arwain at agwedd dameidiog tuag at gweithredu. Ni fu unrhyw achosion cyfreithiol llwyddiannus ychwaith yn ei ddefnyddio fel sail i herio gwneud penderfyniadau yng Nghymru.
- Er ei bod yn rhy fuan i asesu effaith canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer cyrff cyhoeddus i baratoi ar gyfer gweithredu’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn llawn dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae pryderon bod nifer o gyrff cyhoeddus yng Nghymru yn dal i fod yn brin o eglurder ynghylch perthnasedd y ddyletswydd a sut i fynd ymlaen â hi.
- Yn dilyn yr Adolygiad Cydraddoldeb Rhyw yn 2019, mae Llywodraeth Cymru wedi ymroi i ddwyn yr argymhellion ymlaen i gryfhau amddiffyniadau hawliau dynol a chydraddoldeb yng Nghymru.
Darllenwch fwy am gamau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar y fframwaith cyfreithiol cydraddoldeb a hawliau dynol.