Fframwaith cyfreithiol cydraddoldeb a hawliau dynol – asesiad Llywodraeth y DU
Cam yn ôl
Gwelwyd cam cyson neu ddifrifol yn ôl o ran mwynhad hawliau dynol, neu leihad arwyddocaol mewn safonau hawliau dynol neu amddiffyniadau dan y gyfraith neu bolisi
Mae eithrio Siarter Hawliau Sylfaenol yr UE o gyfraith ddomestig yn ostyngiad sylweddol mewn amddiffyniadau hawliau dynol. Mae’r Ddeddf Coronafeirws, deddfwriaeth frys a fu’n destun craffu cyfyngedig, yn cynnwys darpariaethau sy’n gwanhau amddiffyniadau hawliau dynol, ac ni chraffwyd yn ofalus ar effaith cydraddoldeb a hawliau dynol y mesurau. Mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod sawl argymhelliad i gryfhau deddfwriaeth cydraddoldeb a hawliau dynol, gan gynnwys cyflwyno’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn Lloegr ac ymgorffori hawliau cytundeb rhyngwladol mewn cyfraith ddomestig.
- Mae Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 yn eithrio Siarter Hawliau Sylfaenol yr UE o gyfraith ddomestig, yn arwain at golli rhai amddiffyniadau hawliau, gan gynnwys yr hawl annibynnol i gydraddoldeb triniaeth. Rydym yn pryderu y bydd colli rhai o’r hawliau hyn yn ei gwneud hi’n anoddach i unigolion orfodi eu hawliau sylfaenol.
- Mae pryderon ynghylch effaith bosibl colli cyllid yr UE ar gyfer prosiectau sydd â goblygiadau i hawliau dynol.
- Mae Llywodraeth y DU wedi cynnal ei safle i beidio ag ymgorffori cyfamodau hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig mewn cyfraith ddomestig.
- Mae Llywodraeth y DU wedi nodi ei hymrwymiad i aros yn llofnodwr y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, ond nid yw’n eglur sut y bydd unrhyw newidiadau posibl i’r Ddeddf Hawliau Dynol yn effeithio ar amddiffyniadau hawliau dynol.
- Mae Deddf y Coronafeirws 2020, a gafodd ei roi ar lwybr yn gyflym trwy ddau Dŷ’r Senedd mewn pedwar diwrnod eistedd, wedi arwain at newidiadau sylweddol yn fframwaith cyfreithiol y DU. Er iddo gael ei gyflwyno fel deddfwriaeth dros dro, mae’n cynnwys darpariaethau sydd, wrth gael eu harfer, yn gwanhau amddiffyniadau hawliau dynol, gan gynnwys gwanhau’r ddyletswydd ar awdurdodau lleol i fodloni, a dileu’r ddyletswydd i asesu, anghenion pobl sydd angen gofal a chefnogaeth.
- Er bod Deddf y Coronafeirws 2020 yn cynnwys darpariaethau i hwyluso craffu ar y ddeddfwriaeth, gan gynnwys adroddiadau i’r Senedd bob deufis ar statws gweithredu ei darpariaethau, methodd y pedwar adroddiad cyntaf i ystyried effaith cydraddoldeb a hawliau dynol y mesurau.
- Mae Llywodraeth y DU wedi arwyddo na fydd yn dod â’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol dan y Ddeddf Cydraddoldeb 2010 i rym yn Lloegr. Mae’r ddyletswydd yn gofyn bod cyrff cyhoeddus, wrth wneud penderfyniadau strategol, yn ystyried sut y gallai eu penderfyniadau helpu i leihau’r anghydraddoldebau sy’n gysylltiedig ag anfantais economaidd-gymdeithasol.
- Mae Adran 106 Deddf Cydraddoldeb 2010, sy’n ei gwneud yn ofynnol i bleidiau gwleidyddol gyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth eu hymgeiswyr, yn parhau i fod heb ei gweithredu.
- Yn Hydref 2019, gwrthododd Llywodraeth y DU ddiwygio ‘dyletswyddau penodol’ y Ddeddf Cydraddoldeb dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, yn dilyn argymhelliad gan y Pwyllgor Menywod a Chydraddoldebau i wneud y dyletswyddau’n fwy strategol. Mae’r dyletswyddau penodol wedi’u cynllunio i brif ffrydio cydraddoldeb o fewn cyrff cyhoeddus.
- Yng Ngorffennaf 2018, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bwriad i ddiddymu adran 9(5)(a) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 sy’n galluogi gweinidogion i ddiwygio’r diffiniad statudol o hil i gynnwys cast. Mae’r penderfyniad yn gadael dioddefwyr gwahaniaethu ar sail cast â diogelwch cyfreithiol cyfyngedig.
- Mae Llywodraeth y DU wedi cynnal ei safbwynt nad oes tystiolaeth ddigonol i gyfiawnhau cyflwyno adran 14 y Ddeddf Cydraddoldeb 2010, sy’n gwahardd gwahaniaethu deuol.
- Yn Medi 2020, cyhoeddodd ymateb y Llywodraeth i’w ymgynghoriad yn 2018 ar y Deddf Cydnabod Rhywedd 2004 gamau i’w croesawu i symud y system ar-lein a lleihau’r ffi ymgeisio am Dystysgrif Cydnabod Rhywedd, ond gwrthododd i anfeddyginiaethu’r system ar gyfer cydnabod rhywedd cyfreithiol neu symud i system o hunan nodi y mae rhai grwpiau wedi galw amdano.
Darllenwch fwy am gamau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar y fframwaith cyfreithiol cydraddoldeb a hawliau dynol.