Gwaharddiadau ysgolion a rheoli ‘ymddygiad heriol’ – asesiad Llywodraeth y DU
Cynnydd cyfyngedig
Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol, ond mae tystiolaeth gyfyngedig iawn o welliannau parhaus o ran mwynhad hawliau dynol ar y mater hwn.
Mae Llywodraeth y DU wedi cymryd camau i fynd i’r afael â bylchau yn y fframwaith polisi a chyfreithiol presennol sy’n rheoleiddio’r defnydd o waharddiadau. Fodd bynnag, mae sawl diwygiad yn parhau i fod heb eu gweithredu. Mae grwpiau sydd â rhai nodweddion gwarchodedig yn parhau i fod yn anghymesur o debygol o gael eu gwahardd, ac mae tystiolaeth gynyddol ynghylch defnyddio gwaharddiadau anghyfreithiol, anffurfiol. Mae pryderon hirsefydlog ynghylch defnydd gormodol o ataliaeth mewn ysgolion hefyd yn parhau i fod heb sylw; yn benodol, mae diffyg data yn parhau i rwystro gallu ysgolion i werthuso ac ymateb i’w defnydd eu hunain o arferion cyfyngol.
- Rhaid i ysgolion arbennig preswyl gofnodi digwyddiadau o rym rhesymol, ond fel arall nid oes dyletswydd gyfreithiol ar ysgolion yn Lloegr i gofnodi’r defnydd o ataliaeth. O ganlyniad, ni wyddys i ba raddau y defnyddir ataliaeth, nac unrhyw ddefnydd anghymesur ar blant â nodweddion gwarchodedig. Mae absenoldeb data safonedig ar ddefnydd ataliaeth yn rhwystro ymhellach ymdrechion i fonitro a lleihau ei ddefnydd.
- Mae tystiolaeth anecdotaidd eang am y defnydd gormodol o ataliaeth mewn addysg.
- Mae plant anabl – yn enwedig plant ag anableddau dysgu, awtistiaeth neu anghenion cymhleth – mewn mwy o berygl o ataliaeth mewn lleoliadau addysg. Ar ben hynny, mae pryderon bod ataliaeth yn cael ei ddefnyddio’n amhriodol i reoli ymddygiad ‘heriol’.
- Yn dilyn pryderon ynghylch absenoldeb data swyddogol a gofynion monitro ynghylch defnydd ataliaeth, rydym yn cynnal ymchwiliad i arferion cofnodi ysgolion yng Nghymru a Lloegr.
- Mae cyfradd gyffredinol gwaharddiadau parhaol yn Lloegr wedi aros yn sefydlog ers 2016–17 ar 0.10%, yn dilyn codiad graddol ers 2012–13.
- Mae cyfradd gyffredinol gwaharddiadau tymor penodol wedi codi bob blwyddyn ers 2013–14, er ei bod wedi bod yn gostwng mewn ysgolion arbennig ers 2016–17.
- Mae tystiolaeth yn awgrymu bod gwaharddiadau yn cael eu defnyddio’n anghymesur ar gyfer rhai grwpiau, gan gynnwys plant ag anghenion addysgol arbennig, bechgyn, y rhai sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, treftadaeth teithwyr Gwyddelig a disgyblion treftadaeth Sipsiwn Roma, Du Caribïaidd, a disgyblion Cymysg Gwyn a Du Caribïaidd.
- Bu pryderon cynyddol am ‘dadrolio’ – y broses o dynnu disgyblion o gofrestr yr ysgol heb eu gwahardd yn ffurfiol ac yn bennaf er budd yr ysgol yn hytrach na’r dysgwr) – a mathau eraill o waharddiadau anffurfiol. Canfu arolygiadau gan Ofsted a’r Comisiwn AnsawddGofal fod gwaharddiadau answyddogol wedi’u defnyddio ‘â gormod o barodrwydd’ i ymdopi â disgyblion ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau. Mae fframwaith arolygu newydd Ofsted, a ddaeth i rym ym mis Medi 2019, yn ailadrodd nad yw ‘dadrolio’ byth yn dderbyniol.
- Mae pryderon y gallai rheolau newydd a gyflwynir mewn ymateb i’r pandemig leihau goddefgarwch tuag at ymddygiad heriol. Canfu adroddiad o ymweliadau interim Ofsted fod cyfraddau gwaharddiadau tymor penodol wedi codi yn achlysurol iawn, oherwydd rhwystrau wrth weithredu cosbau arferol cyn eu gwahardd.
- Er bod yr Adran Addysg yn dilyn rhaglenni gwaith sy’n gysylltiedig ag ymddygiad, mae pryderon ynghylch cynnydd wrth weithredu argymhellion adolygiad Timpson.
- Beirniadwyd adolygiad Timpson am beidio â nodi camau digonol ar gyfer mynd i’r afael â gwahaniaethu ar sail hil.
- Mae plant yn profi rhwystrau i herio gwaharddiadau. Yn dilyn penderfyniad i wahardd, ni all disgyblion yn Lloegr o dan 18 oed wneud cais am adolygiad o’r penderfyniad eu hunain – dim ond eu rhiant neu warcheidwad all wneud hynny ar eu rhan. Corff llywodraethol yr ysgol, nid panel annibynnol, sy’n cynnal yr adolygiad cyntaf, ac nid oes cymorth cyfreithiol am ddim ar gael i bob disgybl er mwyn herio gwaharddiad.
Darllenwch fwy am gamau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar waharddiadau ysgolion a rheoli ‘ymddygiad heriol’.