Iechyd meddwl – asesiad Llywodraeth Cymru
Cynnydd cyfyngedig
Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol, ond mae tystiolaeth gyfyngedig iawn o welliannau parhaus o ran mwynhad hawliau dynol ar y mater hwn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu mesurau polisi ac wedi darparu buddsoddiad i wella canlyniadau iechyd meddwl. Fodd bynnag, mae diffygion yn y ddarpariaeth iechyd meddwl, yn ogystal ag anghydraddoldebau mewn triniaeth iechyd meddwl a chanlyniadau i rai grwpiau sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys plant a phobl ifanc, a phobl o rai lleiafrifoedd ethnig. Mae pryderon hefyd am y tebygolrwydd uwch o gyflawni hunanladdiad i bobl mewn ardaloedd mwy difreintiedig. Mae pandemig y coronafeirws wedi datgelu diffygion tymor hwy rhwng y galw am wasanaethau iechyd meddwl a chyflenwad.
- Yn ôl data a rannwyd gan Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru ar les meddyliol yng Nghymru (2020), mae adroddiadau o les meddyliol yn awgrymu bod Cymru yn ymdopi ychydig yn waeth na chenhedloedd eraill y DU. Fodd bynnag, mae cyfraddau ‘pobl sy’n nodi boddhad bywyd uchel, yn teimlo bod bywyd yn werth chweil ac mae’n ymddangos bod hapusrwydd wedi codi yng Nghymru rhwng 2013 a 2018’.
- Mae yna brinder gweithwyr proffesiynol arbenigol o hyd a rhestrau aros hir ar gyfer plant sydd angen triniaeth iechyd meddwl. Arddangosodd ymchwiliad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd yn 2018 y diffyg cynnydd o ran darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc ers yr ymchwiliad blaenorol yn 2014.
- Dangosodd adroddiad yn 2018 o’r prosiect Iechyd Meddwl Amenedigol yng Nghymru fod menywod yng Nghymru yn elwa ar gymorth iechyd meddwl amenedigol arbenigol newydd, ond mae rhwystrau yn atal menywod rhag cyrchu’r gwasanaethau hyn.
- Yn 2018, casglodd adolygiad canol cyfnod o gynllun gweithredu pum mlynedd Llywodraeth Cymru ar atal hunanladdiad bod cynnydd wedi’i wneud a bod arweiniad a chanlyniadau wedi’u cyflawni. Fodd bynnag, mae pobl o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn economaidd-gymdeithasol yn parhau i fod yn fwy tebygol o farw o hunanladdiad. Gall cyfraddau hunanladdiad yng Nghymru ddangos ‘patrymau cyfnewidiol oherwydd y nifer llai o bobl dan sylw, ond roedd y cyfraddau dynion a menywod yn 2019 yn debyg i’r cyfraddau yn 2018.
- Er gwaethaf cynnydd mewn cyllid, nid yw darpariaeth iechyd meddwl yng Nghymru yn bodloni’r galw. Dangosodd adroddiad Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn Rhagfyr 2020 ddiffyg cyfatebiaeth rhwng y sicrwydd a roddwyd gan Fyrddau Iechyd a phrofiadau pobl yn cyrchu gwasanaethau iechyd meddwl yn ystod y pandemig coronafeirws. Dangosodd fod y pandemig wedi datgelu diffygion tymor hwy rhwng y galw a’r cyflenwad.
- Awgryma casgliadau o’r Arolwg Ymgysylltu â’r Cyhoedd ar Iechyd a Lles yn ystod Mesurau Coronafeirws bod pobl o grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol o deimlo’n bryderus, yn poeni am arian, ac ynysig na phobl wyn yn ystod y pandemig coronafeirws. Diweddarodd Llywodraeth Cymru gynllun cyflawni Law yn Llaw at Iechyd Meddwl 2019‒2022 mewn ymateb i effaith y pandemig, ond mae’n rhy gynnar i asesu effaith y cynllun wedi’i ddiweddaru.
- Adroddodd arolwg ymgysylltu Iechyd Cyhoeddus Cymru mai dim ond 50% o bobl a nododd fod eu lefel hapusrwydd gyfredol yn uchel (graddfeydd o 7 i 10 ar raddfa o 0 i 10) ddechrau Tachwedd 2020, i lawr o 69% ar ddechrau mis Mai 2020.
Darllenwch fwy am gamau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar iechyd meddwl.