Mynediad at gyflogaeth – asesiad Llywodraeth y DU

Asesiad cynnydd

Elfen o gynnydd

Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol ac mae tystiolaeth o gynnydd cynaliadwy cymedrol o ran mwynhau hawliau dynol yn gysylltiedig i'r mater hwn. Fodd bynnag, ar rai o’r hawliau hyn, neu i rai grwpiau, ni chafwyd cynnydd cymharol.

Yn ystod blynyddoedd diweddar, mae’r gyfradd cyflogaeth wedi cynyddu’n gyffredinol, cyfraddau cyflogaeth wedi gwella i rai, ond nid pob, grŵp ethnig, ac mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi culhau. Mae’r bwlch cyflogaeth anabledd yn dal i fod yn sylweddol. Gostyngodd oriau gwaith yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19), ac roedd grwpiau gyda nodweddion gwarchodedig penodol gyda gorgynrychiolaeth mewn sectorau oedd wedi eu cau i lawr. Roedd gweithredu ar amrywiaeth yn y gweithle yn gyfyngedig, er y cafwyd cynnydd o ran cynrychiolaeth menywod mewn swyddi arweinyddiaeth.

Darllenwch fwy am weithredoedd Llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru ar fynediad ar gyflogaeth.

Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 30/09/2021