Mynediad at ofal iechyd – asesiad Llywodraeth Cymru

Asesiad cynnydd

Dim cynnydd

Ni chafwyd unrhyw newidiadau cyfreithiol na pholisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol o ran y mater hwn, a thystiolaeth gyfyngedig iawn sydd o’r cynnydd o ran mwynhad o'r hawliau hyn.

Mae yna dystiolaeth bod grwpiau penodol yn profi anghydraddoldeb parhaus o ran mynediad i ofal iechyd yng Nghymru, ond mae diffyg data yn ôl nodweddion gwarchodedig yn ei gwneud yn anodd deall y gwahaniaethau hyn yn llwyr. Er bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno gwasanaethau i wella mynediad at ofal iechyd i rai grwpiau, tystiolaeth gyfyngedig iawn sydd o well deilliannau. Mae rhaglen frechu coronafeirws (COVID-19) wedi cyflawni cwmpas eang, ond mae’r pandemig wedi gwaethygu oedi cyfredol mewn triniaeth ar gyfer cyflyrau eraill.

Darllenwch fwy am weithredoedd Llywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru ar fynediad ar ofal iechyd.

Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 30/09/2021