Trais, camdriniaeth ac esgeulustod, a chamfanteisio’n rhywiol ar blant – asesiad Llywodraeth Cymru

Asesiad cynnydd

Cynnydd cyfyngedig

Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol, ond mae tystiolaeth gyfyngedig iawn o welliannau parhaus o ran mwynhad hawliau dynol ar y mater hwn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd rhai camau deddfwriaethol a pholisi cadarnhaol, gan gynnwys amrywiaeth o gamau i fynd i’r afael ag adfyd plentyndod. Data cyfyngedig sydd ar gael am gyfraddau trais, camdriniaeth ac esgeulustod, ond mae tystiolaeth sydd ar gael yn dangos bod cyfraddau trais a cham-drin domestig, a throseddau rhywiol a gofnodwyd yn erbyn plant yng Nghymru, yn uchel o hyd. Mae tystiolaeth sy’n dod i’r amlwg yn dangos bod nifer yr achosion o gam-drin domestig y rhoddwyd gwybod amdanynt wedi cynyddu yn ystod pandemig coronafeirws (COVID-19), a bod nifer cynyddol o alwadau i linellau cymorth ar gyfer cam-drin.

Darllenwch fwy am gamau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar trais, camdriniaeth ac esgeulustod, a chamfanteisio’n rhywiol ar blant.

Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 12/07/2021