Troseddau casineb ac iaith casineb – asesu Llywodraeth y DU

Asesiad cynnydd

Cynnydd cyfyngedig

Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol, ond mae tystiolaeth gyfyngedig iawn o welliannau parhaus o ran mwynhad hawliau dynol ar y mater hwn.

Fe gynyddodd y nifer o droseddau casineb a gofnodwyd rhwng mis Mawrth 2021 a mis Mawrth 2022, er i ddata gael ei effeithio gan welliannau i arferion cofnodi’r heddlu a’r pandemig coronafeirws (COVID-19). Adroddodd nifer o ddioddefwyr ynglŷn â’u hanfodlonrwydd gydag ymdriniaeth yr heddlu o achosion. Mae’r fframwaith gyfreithiol ynghylch troseddau casineb yn parhau’n gymhleth ac yn rhoi amddiffynfa amrywiol i wahanol grwpiau. Nid yw Llywodraeth y DU wedi ymateb hyd yma i’r argymhellion i fynd i’r afael â hyn.  

Darllenwch ragor ynglŷn â chamau gweithredu Llywodraeth y DU parthed troseddau casineb ac iaith casineb.

Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 10/12/2022