Ynglŷn â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Ein rôl

Mae gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, sefydliadau hawliau dynol cenedlaethol (NHRIs) eraill yn y Deyrnas Unedig, Senedd y DU a chymdeithas sifil oll rôl i’w chwarae o ran dal y Llywodraeth yn atebol am ei gofnod hawliau dynol. Fel NHRI, un o’n prif swyddi yw monitro cydymffurfiaeth y Deyrnas Unedig â saith cytundeb hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig y mae wedi’u llofnodi a’u cadarnhau (cytuno i’w dilyn). Rydym yn monitro perfformiad y llywodraeth ar draws y cyfamodau hyn, ac yn darparu gwybodaeth i’r CU mewn rhywbeth a elwir yn ‘adroddiadau cysgodol’. Rydym yn gweithio’n agos gydag NHRIs eraill y Deyrnas Unedig ar fonitro cydymffurfiad gyda rhwymedigaethau hawliau dynol rhyngwladol y Deyrnas Unedig: Comisiwn Hawliau Dynol yr Alban, yr ydym yn rhannu ein cylch gorchwyl â nhw yn yr Alban, a Chomisiwn Hawliau Dynol Gogledd Iwerddon (NIHRC). Darllenwch fwy am ein rôl o ran monitro cydymffurfiad gyda safonau hawliau dynol rhyngwladol ym Mhrydain Fawr.
Diweddarwyd ddiwethaf ar 18/09/2019