Confensiwn Rhyngwladol ar Ddiddymu Pob Math o Wahaniaethu Hiliol (CERD)

Cytuniad y CU

Mae CERD yn gyfamod hawliau dynol rhyngwladol a fabwysiadwyd yn 1965. Fe gadarnhaodd (cytuno i ddilyn) y Deyrnas Unedig y CERD yn 1969. Trwy gadarnhau’r CERD, mae’r Deyrnas Unedig yn cytuno i weithredu i ddileu gwahaniaethu hiliol ar bob ffurf, yn cynnwys:

  • dileu casineb radical ac ysgogiad i gasineb
  • gweithredu i daclo rhagfarnau sy’n arwain at wahaniaethu hiliol
  • gwarantu mwynhad o hawliau sifil, gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol heb wahaniaethu ar sail hil, lliw neu darddiad cenedlaethol neu ethnig

How the treaty is monitored

Mae gweithrediad y CERD yn cael ei fonitro gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Ddiddymu Gwahaniaethu Hiliol. Oddeutu pob pum mlynedd mae’r Pwyllgor yn adolygu pa mor dda mae pob gwladwriaeth yn rhoi hawliau’r CERD ar waith. Dysgwch fwy am gylchoedd adolygu blaenorol.

Ymgysylltu a chyfranogiad

Gall sefydliadau cymdeithas sifil a rhanddeiliaid ymgysylltu drwy gydol y cylch monitor cytuniadau. Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi darparu gwybodaeth ar sut i gymryd rhan.  Rydym wedi cynhyrchu canllaw i gymdeithas sifil gyda gwybodaeth ar sut i gymryd rhan. Ein nod yw cefnogi sefydliadau cymdeithas sifil i ddeall ac ymgysylltu â’r broses fonitro. Er enghraifft, efallai y byddwn yn cynnal gweminarau neu drafodaethau bord gron, yn comisiynu sefydliadau i gynhyrchu adroddiadau ar ran y gymdeithas sifil ehangach, neu’n darparu cymorth ariannol i gynyddu cyfranogiad yn sesiynau tystiolaeth lafar y Cenhedloedd Unedig. Byddwn yn comisiynu hyd at uchafswm o un prosiect cymdeithas sifil fesul cylch. Yn fwyaf diweddar rhoesom gyllid i Runnymede Trust a Race Equality First fel rhan o’r cylch adrodd presennol i gynhyrchu adroddiadau cymdeithas sifil ar gyfer Cymru a Lloegr.

Confensiwn Rhyngwladol ar Ddiddymu Pob Math o Wahaniaethu Hiliol (CERD) treaty cycle

Mae cylch adolygu’r CERD ar hyn o bryd ar gam 1: Adroddiad Rhanddeiliaid ar gynnydd. Adroddir i’r Pwyllgor ar Ddileu Gwahaniaethu ar sail Hil o dan y weithdrefn adrodd safonol. Mae’r amseriadau a roddir isod yn amcangyfrifon a gallant newid, yn enwedig o ganlyniad i oedi ac ôl-groniadau yn y Cenhedloedd Unedig. Gall amseriadau newid hefyd oherwydd cynlluniau’r Cenhedloedd Unedig i symud i gylch adolygu wyth mlynedd rhagweladwy ar gyfer pob corff cytuniad. Gall dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth gael eu cadarnhau gan y Cenhedloedd Unedig ar fyr rybudd, felly cynghorir rhanddeiliaid sy’n dymuno cyflwyno i baratoi ymlaen llaw.

1. Adroddiad rhanddeiliaid ar gynnydd

  • Bydd y Cenhedloedd Unedig yn mabwysiadu ei Restr Themâu 1.5 mis cyn yr archwiliad
  • Dylai rhanddeiliaid sydd am ymateb I’r Rhestr Themâu gynllunio i gyflwyno eu hadroddiadau o leiaf dair wythnos cyn i’r DU gael ei harchwilio
  • Bydd arholiad y Cenhedloedd Unedig yn cael ei gynnal ym mis Awst 2024

Protocolau dewisol

Datganiad dan Erthygl 14 CERD

Dan CERD, gall llywodraethau wneud datganiad dan Erthygl 14 sy’n cytuno i adael i unigolion neu grwpiau wneud cwynion i’r Pwyllgor ar Ddiddymu Gwahaniaethu Hiliol os ydynt o’r farn y tramgwyddwyd ar eu hawliau. Dim ond pan fydd pob opsiwn domestig wedi ddisbyddu y gellir ei ddefnyddio. Nid yw’r Deyrnas Unedig wedi gwneud datganiad.

Sylwadau cyffredinol

Mae’r Pwyllgor ar Dddileu Gwahaniaethu ar Sail Hil wedi cyhoeddi nifer o Argymhellion Cyffredinol ar CERD. Mae’r rhain yn rhoi rhagor o fanylion ynghylch sut y dylid dehongli’r cytuniad, gan gwmpasu materion fel iaith casineb hiliol, gwahaniaethu ar sail hil yn y system cyfiawnder troseddol a gwahaniaethu yn erbyn pobl nad ydynt yn ddinasyddion.

Diweddarwyd ddiwethaf ar 06/11/2023