Ein methodoleg

Adolygodd y Comisiwn y camau mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi cymryd mewn perthynas â nifer o faterion hawliau dynol gwahanol, ac rydym wedi cynnal ein hasesiad ein hunain o unrhyw gynnydd a wnaed. Edrychom ar gamau a chynnydd ers 2016, gan adolygu Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar wahân i’r materion hawliau dynol hynny sydd wedi’u datganoli i Lywodraeth Cymru. Cynlluniwyd ein hasesiadau cyhoeddedig i ddarparu trosolwg cryno, ac ni fwriedir iddynt ddarparu cyfrif cynhwysfawr o bob datblygiad yn perthyn i fater arbennig. Maent fodd bynnag wedi’u dilysu o ran ansawdd, eu profi a’u craffu gan arbenigwyr perthnasol ar draws y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i sicrhau eu bod yn deg, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn gadarn.   Gweithrediadau’r Llywodraeth Pwrpas tudalennau ‘Gweithrediadau’r Llywodraeth’ yw darparu ciplun o’r camau allweddol a wnaed ac yn cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru mewn perthynas â materion hawliau dynol gwahanol. Ar gyfer pob un, ystyriom:
  • Y newidiadau deddfwriaethol y cyflwynodd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, y newidiadau maent wedi ymrwymo iddynt neu wedi’u cefnogi ar gyfer y mater hwnnw
  • Y prif ddiwygiadau polisi neu arfer a gyflwynodd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru neu maent wedi ymrwymo iddynt ar gyfer y mater hwnnw
Wrth benderfynu pa rai i gynnwys yn y ciplun, blaenoriaethom y gweithrediadau diweddaraf, a chamau pendant dros ymrwymiadau. Dangosir y gweithrediadau mewn trefn cronolegol, o’r newydd i’r hynaf. Asesiadau cynnydd Pwrpas ein tudalennau ‘Asesiad Cynnydd’ yw darparu trosolwg cryno o ba mor dda mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru’n cyflawni’u rhwymedigaethau hawliau dynol rhyngwladol. Yn unol â’n fframwaith mesur i gydraddoldeb a hawliau dynol, adolygom gynnydd ar hawliau dynol trwy edrych ar ‘strwythur’, ‘proses’ a ‘deilliannau’. Yn syml, mae’r ‘strwythur’ yn ymwneud â’r gyfraith, y ‘broses’ i bolisïau’r llywodraeth a’u rhoi ar waith, a’r ‘deilliannau’ i brofiadau gwirioneddol pobl. Seiliom ein hasesiadau ar dystiolaeth o ystod o ffynonellau, gan gynnwys:
  • Ystadegau cenedlaethol;
  • Ein hymchwil a dadansoddiad cyhoeddedig ein hunain;
  • Adroddiadau ymchwiliad Seneddol;
  • Adroddiadau ymchwiliad cyhoeddus, neu adolygiadau annibynnol a gomisiynwyd gan y Llywodraeth; a
  • Thystiolaeth gadarn a gyhoeddwyd gan gymdeithas sifil, seiadau doethion ac academyddion.
Wrth gynnal ein hasesiadau, blaenoriaethom y newidiadau diweddaraf a’r rheiny sydd wedi effeithio’n fwyaf arwyddocaol ar hawliau dynol. Ystyriom unrhyw dystiolaeth o effaith gronnol newidiadau ac edrychom ar brofiadau grwpiau gwahanol, gan gynnwys y rheiny â nodweddion gwarchodedig. Fe gynhwysom y meini prawf canlynol wrth neilltuo statws cynnydd i bob un mater hawliau dynol:
Statws cynnydd: Meini prawf ar gyfer asesu:
Cam yn ôl: Gwelwyd cam cyson neu ddifrifol yn ôl o ran mwynhad hawliau dynol, neu leihad arwyddocaol mewn safonau hawliau dynol neu amddiffyniadau dan y gyfraith neu bolisi. Bu naill ai:
  • Safonau hawliau dynol yn cael eu gwanhau, safonau mae’r DU wedi ymrwymo iddynt parthed i’r is-fater hwn
  • Newidiadau cyfreithiol neu bolisi sydd wedi lleihau’n sylweddol amddiffynfeydd hawliau dynol; neu
  • Dystiolaeth o atchweliad difrifol neu barhaus o ran mwynhau hawliau dynol ar gyfer grwpiau poblogaeth benodol sydd wedi’u targedu neu nodweddion gwarchodedig
Dim cynnydd: Ni chafwyd unrhyw newidiadau cyfreithiol na pholisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol o ran y mater hwn, a thystiolaeth gyfyngedig iawn sydd o’r cynnydd o ran mwynhad o’r hawliau hyn. Bu:
  • Dim tystiolaeth o atchweliad difrifol neu barhaus o ran mwynhau hawliau dynol
  • Dim cynnydd wrth wella’r fframweithiau polisi a chyfreithiol i gryfhau amddiffynfeydd hawliau dynol; a
  • Tystiolaeth gyfyngedig iawn o gynnydd wrth fwynhau hawliau dynol i’r boblogaeth ehangach, neu grwpiau poblogaeth benodol a dargedwyd neu nodweddion gwarchodedig.
Cynnydd cyfyngedig: Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol, ond mae tystiolaeth gyfyngedig iawn o welliannau parhaus o ran mwynhad hawliau dynol ar y mater hwn. Bu:
  • Cynnydd wrth wella’r fframweithiau polisi a chyfreithiol i gryfhau amddiffynfa hawliau dynol, neu ymrwymiadau cryf i wneud hynny; a
  • Dim neu dystiolaeth gyfyngedig o gynnydd parhaus wrth fwynhau hawliau dynol parthed y mater hwn i’r boblogaeth ehangach a/neu ar gyfer grwpiau poblogaeth benodol a dargedwyd neu nodweddion gwarchodedig.
Elfen o gynnydd: Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol ac mae tystiolaeth o gynnydd cynaliadwy cymedrol o ran mwynhau hawliau dynol yn gysylltiedig i’r mater hwn. Fodd bynnag, ar rai o’r hawliau hyn, neu i rai grwpiau, ni chafwyd cynnydd cymharol.. Bu:
  • Cynnydd wrth wella’r fframweithiau polisi a chyfreithiol i gryfhau amddiffynfa hawliau dynol; a
  • Thystiolaeth o gynnydd parhaus wrth fwynhau’r hawliau dynol mewn perthynas â’r mater hwn ar gyfer y boblogaeth ehangach, ond mae hawliau dynol penodol  na fu unrhyw gynnydd yn eu cylch, neu rai grwpiau poblogaeth neu nodweddion gwarchodedig na fu unrhyw gynnydd o’u cylch.
Cynnydd parhaus: Bu newidiadau cyfreithiol a pholisi i wella amddiffynfeydd hawliau dynol, a chynnydd parhaus wrth fwynhau hawliau dynol yn ymwneud â’r mater hwn ar gyfer y boblogaeth ehangach a/neu grwpiau penodol. Bu:
  • Cynnydd wrth wella’r fframweithiau polisi a chyfreithiol i gryfhau amddiffynfa hawliau dynol; a
  • Thystiolaeth o gynnydd parhaus wrth fwynhau’r holl hawliau dynol mewn perthynas â’r mater hwn, ar gyfer y boblogaeth ehangach, a/neu  grwpiau poblogaeth targed penodol  neu nodweddion gwarchodedig.
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20/10/2021