Sut i fonitro hawliau dynol

Beth yw cyfamodau hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig?

Mae llywodraethau wedi mabwysiadu cyfres o gyfamodau hawliau dynol rhyngwladol, sy’n sefydlu’r hawliau a rhyddidau sylfaenol sy’n perthyn i bawb. Mae’r Deyrnas Unedig wedi llofnodi a chadarnhau (cytuno i ddilyn) saith o naw cyfamod hawliau dynol craidd y Cenhedloedd Unedig. Y saith hawl yma yw: Er na ellir gorfodi’r hawliau a gynhwysir yn y cyfamodau yn uniongyrchol yn llysoedd y Deyrnas Unedig, maent yn cynrychioli rhwymedigaethau gorfodol mewn cyfraith ryngwladol. Trwy gytuno i ddilyn y cyfamodau, mae’r Deyrnas Unedig wedi addo sicrhau ei bod yn parchu, diogelu a chyflawni’r safonau hawliau dynol a gynhwysir ynddynt. Nid yw’r DU wedi cytuno i ddilyn y Confensiwn Rhyngwladol ar Warchod Hawliau Holl Weithwyr Mudol ac Aelodau o’u Teuluoedd neu y Confensiwn Rhyngwladol Ar Warchod Pobl rhag Diflaniad Gorfodol.

Sut mae safonau hawliau dynol yn cael eu monitro?

Ar gyfer pob un o’r cyfamodau, mae pwyllgor o arbenigwyr yn edrych ar pa mor dda mae’r Deyrnas Unedig yn bodloni’r safonau hawliau dynol rhyngwladol mae wedi cytuno i’w dilyn. Gelwir y pwyllgorau hyn yn ‘gyrff cyfamod’. Mae’r Deyrnas Unedig yn cael ei hadolygu gan bob corff cyfamod oddeutu pob pum mlynedd, yn seiliedig ar dystiolaeth gan y llywodraeth, sefydliadau cymdeithas sifil a sefydliadau hawliau dynol cenedlaethol (NHRIs). Gall sefydliadau cymdeithas sifil fel elusennau a chyrff anllywodraethol hefyd gyflwyno adroddiadau cysgodol i’r Cenhedloedd Unedig i ddarparu safbwynt annibynnol ar gynnydd a gyflawnwyd a’u prif bryderon hawliau dynol.

Y cylch monitro cyfamod

Mae chwe cham pwysig yn y cylch monitro cyfamod. Dysgwch beth sy’n digwydd ar bob cam o’r broses:

Adolygiad Cyfnodol Cyffredinol (UPR)

Mae’r Deyrnas Unedig hefyd yn cymryd rhan yn y broses Adolygiad Cyfnodol Cyffredinol (UPR). Cyflawnir y broses hon gan Gyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig i adolygu’r sefyllfa hawliau dynol ym mhob Aelod Wladwriaeth y Cenhedloedd Unedig ac i wneud argymhellion ar gyfer cynnydd. Mae’r UPR yn adolygiad cyfoedion a gyflawnir gan 47 Aelod Wladwriaeth Cyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig, ond gall unrhyw Aelod Wladwriaeth gymryd rhan yn y broses. Hyd yma, mae pob gwlad yn y byd wedi cymryd rhan. Mae Aelod Wladwriaethau yn asesu sefyllfaoedd hawliau dynol y Deyrnas Unedig (a phob gwlad) unwaith pob pum mlynedd. Gall yr adolygiad hwn gwmpasu unrhyw fater hawliau dynol perthnasol sydd o ddiddordeb – nid yw’n gyfyngedig i’r cyfamodau hawliau dynol mae’r llywodraeth wedi eu cadarnhau. Maent yn defnyddio gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau, yn cynnwys adroddiad gan y llywodraeth a thystiolaeth annibynnol gan gyrff y Cenhedloedd Unedig, NHRIs a sefydliadau cymdeithas sifil. Yna mae Aelod Wladwriaethau yn gwneud argymhellion ar gyfer cynnydd. Mae’r adroddiad yn cynnwys ymateb gan y llywodraeth sydd dan adolygiad yn datgan a yw’n ‘cefnogi’ neu’n ‘nodi’ pob argymhelliad. Mae rhai llywodraethau yn cyflwyno adroddiad cynnydd gwirfoddol ar bwynt canol y cylch adrodd pum mlynedd.

Y cylch UPR

Mae yna bedwar prif gam yn y cylch UPR. Dysgwch beth sy’n digwydd ar bob cam o’r broses:

Cylchoedd adrodd

Mae pob corff cyfamod a’r UPR yn gweithredu ei amserlen unigryw ei hun, neu ‘gylch adrodd’. Dysgwch ar pa gam mae’r Deyrnas Unedig ym mhob un o’r cylchoedd adrodd:

Nodau Datblygu Cynaliadwy

Mae nifer o’r hawliau a gynhwysir yn y cyfamodau ac a asesir fan yr UPR hefyd wedi eu cynnwys yn Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDGs) y Cenhedloedd Unedig. Mae’r SDGs yn fframwaith fyd eang ar gyfer gweithredu gan y llywodraeth ar amrywiaeth o heriau, o dlodi, anghydraddoldeb a heddwch a chyfiawnder i ddiraddiad yr hinsawdd ac amgylcheddol. Dysgwch fwy am yr SDGs, neu chwiliwch y traciwr hawliau dynol i ddysgu pa argymhellion hawliau dynol sy’n berthnasol i bob Nod.
Diweddarwyd ddiwethaf ar 31/01/2022