Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn (CRC)

Cytuniad y CU

Mae CRC yn gyfamod hawliau dynol rhyngwladol a fabwysiadwyd yn 1989. . Fe gadarnhaodd (cytuno i ddilyn) y Deyrnas Unedig y CRC yn 1991.

Trwy gadarnhau’r CRC, mae’r Deyrnas Unedig yn cytuno y dylai cyrff cyhoeddus ystyried buddiannau gorau’r plentyn wrth wneud unrhyw beth sy’n effeithio ar blant. Mae’r CRC yn diogelu hawliau plant ym mhob maes o’u bywydau, yn cynnwys eu hawliau i:

  • Fywyd, goroesiad a datblygiad
  • Ryddid rhag trais, camdriniaeth ac esgeulustod
  • Fynegi eu barn mewn materion sy’n effeithio arnynt, yn cynnwys achosion cyfreithiol
  • Addysg
  • Safon byw digonol

How the treaty is monitored

Mae gweithrediad y CRC yn cael ei fonitro gan y Pwyllgor ar Hawliau’r Plentyn. Oddeutu pob pum mlynedd mae’r Pwyllgor yn adolygu pa mor dda mae pob gwladwriaeth yn rhoi hawliau’r CRC ar waith. Dysgwch fwy am y cylchoedd adolygu blaenorol.

Mae chwe cham i gylch y cyfamod. Gall sefydliadau cymdeithas sifil ymgysylltu trwy gydol y broses hon. Mae gan y Cenhedloedd Unedig wybodaeth ar ei wefan ar sut gall aelodau cymdeithas sifil, yn cynnwys plant, gymryd rhan.

Protocolau dewisol

Mae gan y CRC dri Protocol Dewisol, sy’n gyfamodau atodol yn darparu hawliau neu brosesau pellach.

Mae’r Protocol Dewisol ar werthu plant, puteindra plant a phornograffi plant wedi ei gadarnhau gan y Deyrnas Unedig.

Mae’r Protocol Dewisol ar gynnwys plant mewn gwrthdaro arfog wedi ei gadarnhau gan y Deyrnas Unedig.

Mae’r trydydd Protocol Dewisol yn galluogi pobl i gwyno’n uniongyrchol i’r Pwyllgor ar Hawliau’r Plentyn os ydynt o’r farn y tramgwyddwyd ar eu hawliau. Dim ond unwaith y bydd pob opsiwn domestig wedi ddisbyddu y gellir ei ddefnyddio. Nid yw’r Deyrnas Unedig wedi cofrestru ar gyfer hyn.

Sylwadau cyffredinol

Diweddarwyd ddiwethaf ar 05/06/2023