Adolygiad Cyfnodol Cyffredinol (UPR)
Mae’r Deyrnas Unedig yn cymryd rhan yn y broses Adolygiad Cyfnodol Cyffredinol (UPR). Mae hyn yn broses adolygiad cyfoedion a gyflawnir gan Gyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig i asesu’r sefyllfa hawliau dynol ym mhob Aelod Wladwriaeth y Cenhedloedd Unedig.
Mae’r UPR yn asesu i ba raddau mae’r gwladwriaethau yn rhoi hawliau dynol ar waith, gan edrych ar rwymedigaethau hawliau dynol pob gwladwriaeth fel y sefydlwyd yn:
- Siarter y Cenhedloedd Unedig
- y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol
- y cyfamodau hawliau dynol rhyngwladol mae pob gwladwriaeth wedi cytuno iddynt
- ymrwymiadau gwirfoddol, fel polisïau hawliau dynol cenedlaethol
- cyfraith ddyngarol ryngwladol berthnasol (sy’n rheoleiddio cwrs rhyfel)
How the treaty is monitored
Dan yr UPR, fe adolygir sefyllfa hawliau dynol pob Aelod Wladwriaeth o’r Cenhedloedd Unedig pob 5 mlynedd. Mae’r adolygiad yn cael ei gyflawni gan Weithgor yr UPR, sy’n cynnwys y 47 aelod o Gyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig. Dysgwch fwy am y cylchoedd adolygu blaenorol.
Mae yna bedwar cam yn y cylch UPR. Gall sefydliadau cymdeithas sifil ymgysylltu trwy gydol y broses hon. Mae gan y Cenhedloedd Unedig wybodaeth ar sut i gymryd rhan ar ei wefan. Ceir rhagor o wybodaeth ar y cylch UPR a chyfranogiad cymdeithas sifil ar UPR Info.
Adolygiad Cyfnodol Cyffredinol (UPR) treaty cycle
Mae’r cylch Adolygiad Cyfnodol Cyffredinol (UPR) ar gam 1 ar hyn o bryd: Adroddiad rhanddeiliaid ar gynnydd.
1. Adroddiad rhanddeiliaid ar gynnydd
• cyflwynodd rhanddeiliaid eu hadroddiadau erbyn 31 Mawrth 2022
• ein hadroddiad (cyhoeddwyd Ebrill 2022)
• disgwylir i’r DU gyflwyno ei hadroddiad y wladwriaeth erbyn 8 Awst 2022
2. Cenhedloedd Unedig yn adolygu’r dystiolaeth
• mae’r adolygiad UPR i’w gynnal yn ystod 7-18 Tachwedd 2022
3. Cenhedloedd Unedig yn cyhoeddi argymhellion
- mabwysiadodd Gweithgor yr UPR argymhellion i’r DU yn Genefa ddydd Mawrth 9 Mai 2017 (fideo o Sesiwn 27 yr Adolygiad Cyfnodol Cyffredinol)
- ymateb llywodraeth y DU i argymhellion
4. Llywodraeth yn gweithredu’r argymhellion
-
• bydd y Gweithgor UPR yn mabwysiadu ei argymhellion ym mis Tachwedd 2022
- disgwylir adroddiad canol tymor gwirfoddol o lywodraeth y DU ym mis Medi 2019