Confensiwn ar Hawliau Pobl ag Anableddau (CRPD)

Cytuniad y CU

Mae CRPD yn gytuniad hawliau dynol rhyngwladol a fabwysiadwyd yn 2006. Fe gadarnhaodd (cytuno i ddilyn) y Deyrnas Unedig CRPD yn 2009. Trwy gadarnhau CRPD, mae’r Deyrnas Unedig yn cytuno i ddiogelu a hyrwyddo hawliau dynol pobl anabl, yn cynnwys:

  • dileu gwahaniaethu ar sail anabledd
  • galluogi pobl anabl i fyw’n annibynnol yn y gymuned
  • sicrhau system addysg gynhwysol
  • sicrhau bod pobl anabl wedi eu diogelu rhag pob math o gamfanteisio, trais a cham-drin

How the treaty is monitored

Mae gweithrediad y CRPD yn cael ei fonitro gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau. Oddeutu pob pum mlynedd mae’r Pwyllgor yn adolygu pa mor dda mae pob gwladwriaeth yn rhoi hawliau’r CRPD ar waith. Dysgwch fwy am y cylchoedd adolygu blaenorol. Mae chwe cham i gylch y cytuniad – gweler cylch cytuniad CRPD isod i gael rhagor o wybodaeth am bob cam.

Ymgysylltu a chyfranogiad

Gall sefydliadau cymdeithas sifil a rhanddeiliaid eraill ymgysylltu drwy gydol y cylch monitro cytuniad. Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi darparu gwybodaeth ar sut i gymryd rhan. Ein nod yw cefnogi sefydliadau cymdeithas sifil i ddeall ac ymgysylltu â’r broses fonitro. Er enghraifft, efallai y byddwn yn cynnal gweminarau neu drafodaethau bord gron, yn comisiynu sefydliadau i gynhyrchu adroddiadau ar ran y gymdeithas sifil ehangach, neu’n darparu cymorth ariannol i gynyddu cyfranogiad yn sesiynau tystiolaeth lafar y Cenhedloedd Unedig. Byddwn yn comisiynu hyd at uchafswm o un prosiect cymdeithas sifil fesul cylch. Yn fwyaf diweddar, rhoesom gyllid i Inclusion London, Anabledd Cymru ac Inclusion Scotland fel rhan o’r cylch adrodd presennol i gynhyrchu adroddiadau cymdeithas sifil ar gyfer Cymru, Lloegr a’r Alban.

Confensiwn ar Hawliau Pobl ag Anableddau (CRPD) treaty cycle

Mae cylch adolygu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau (CRPD) ar gam 1 ar hyn o bryd: Adroddiad rhanddeiliaid ar gynnydd. Adroddir i’r Pwyllgor ar Hawliau Pobl ag Anableddau o dan y weithdrefn adrodd symlach. Mae’r amseriadau a roddir isod yn amcangyfrifon a gallant newid, yn enwedig o ganlyniad i oedi ac ôl-groniadau yn y Cenhedloedd Unedig. Gall amseriadau newid hefyd oherwydd cynlluniau’r Cenhedloedd Unedig i symud i gylch adolygu wyth mlynedd rhagweladwy ar gyfer pob corff cytuniad. Gall dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth gael eu cadarnhau gan y Cenhedloedd Unedig ar fyr rybudd, felly cynghorir rhanddeiliaid sy’n dymuno cyflwyno i baratoi ymlaen llaw.

1. Adroddiad rhanddeiliaid ar gynnydd

  • Dylai rhanddeiliaid gynllunio i gyflwyno eu hadroddiadau o leiaf 4 mis cyn i’r CU lunio ei Restr o Faterion
 
  • Yn seiliedig ar yr amserlen bresennol, rydym yn amcangyfrif y bydd y CU yn mabwysiadu ei Restr o Faterion erbyn Medi 2026 ar y cynharaf
  • Dylai rhanddeiliaid sydd am ymateb i’r Rhestr o Faterion gynllunio i gyflwyno eu hadroddiadau oddeutu 3 wythnos cyn I’r DU gael ei harchwilio
  • Bydd disgwyl i’r DU gyflwyno ei hadroddiad gwladwriaeth o fewn blwyddyn i gyhoeddi’r Rhestr o Faterion
  • Yn seiliedig ar yr amserlen bresennol, rydym yn amcangyfrif y bydd archwiliad y Cenhedloedd Unedig yn cael ei gynnal erbyn mis Medi 2027 ar y cynharaf

Protocolau dewisol

Mae gan CRPD un Protocol Opsiynol. Mae hwn yn gytuniad ychwanegol sy’n caniatáu i bobl gwyno’n uniongyrchol i’r Pwyllgor ar Hawliau Pobl ag Anableddau os ydynt yn credu bod eu hawliau wedi’u torri. Dim ond pan fydd yr holl sianeli domestig wedi dod i ben y gellir ei ddefnyddio.  Mae wedi cael ei gadarnhau gan y DU. Mae’r Protocol Opsiynol hefyd yn caniatáu i’r Pwyllgor gynnal ei ymchwiliadau ei hun, lle ceir gwybodaeth ddibynadwy am honiadau o dorri hawliau cytuniad yn ddifrifol neu’n systematig.   Darllenwch am yr ymchwiliad ar fyw’n annibynnol, safonau byw a chyflogaeth i bobl anabl yn y DU, a gyhoeddwyd yn 2016.Darllenwch am yr ymchwiliad ar fyw’n annibynnol, safonau byw a chyflogaeth i bobl anabl yn y DU, a gyhoeddwyd yn 2016.    

Sylwadau cyffredinol

Mae’r Pwyllgor ar Hawliau Pobl ag Anableddau wedi cyhoeddi nifer o Sylwadau Cyffredinol ar CRPD. Mae’r rhain yn darparu manylion pellach ar sut ddylid dehongli hyn, gan drafod materion fel hygyrchedd, yr hawl i fyw’n annibynnol a chydraddoldeb a pheidio â gwahaniaethu.

Diweddarwyd ddiwethaf ar 06/11/2023