Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol (ICCPR)
Mae’r ICCPR yn gyfamod hawliau dynol rhyngwladol a fabwysiadwyd yn 1966. Fe gadarnhaodd (cytuno i ddilyn) y Deyrnas Unedig yr ICCPR yn 1976. Mae hawliau ICCPR yn galluogi pobl i fwynhau amrywiaeth eang o hawliau dynol, yn cynnwys rhai’n ymwneud â:
- rhyddid i beidio dioddef artaith neu driniaeth neu gosb greulon, annynol neu israddol arall
- hawliau i dreial teg
- rhyddid i syniadau, crefydd a mynegiant
- preifatrwydd, cartref a bywyd teuluol
- cydraddoldeb a pheidio gwahaniaethu
How the treaty is monitored
Mae gweithrediad yr ICCPR yn cael ei fonitro gan Bwyllgor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig. Oddeutu pob pum mlynedd mae’r Pwyllgor yn adolygu pa mor dda mae pob gwladwriaeth yn rhoi hawliau’r ICCPR ar waith. Dysgwch fwy am gylchoedd adolygu blaenorol.
Mae chwe cham i gylch y cyfamod. Gall sefydliadau cymdeithas sifil ymgysylltu trwy gydol y broses hon. Mae gan y Cenhedloedd Unedig wybodaeth ar sut i gymryd rhan ar ei wefan.
Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol (ICCPR) treaty cycle
Mae’r cylch Cytuniad Rhyngwladol ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol (ICCPR) ar gam 3 ar hyn o bryd: Rhanddeiliaid yn ymateb i restr o faterion.
Sylwch mai amcangyfrifon yw rhai o’r amseroedd a roddir isod, yn enwedig o ganlyniad i’r pandemig Covid-19, a ysgogodd y Cenhedloedd Unedig i ganslo nifer o sesiynau Genefa. Caiff yr isod ei ddiweddaru pan fydd y Cenhedloedd Unedig yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth am yr amserlen ar gyfer adolygiad y DU.
1. Adroddiad rhanddeiliaid ar gynnydd
2. Y Cenhedloedd Unedig yn cyhoeddi rhestr o faterion
3. Rhanddeiliaid yn ymateb i restr o faterion
- Adroddiad y wladwriaeth y DU (cyflwynwyd Mehefin 2021).
- Dylai rhanddeiliaid eraill sydd am ymateb i’r Rhestr o Faterion gyflwyno eu hadroddiadau tua mis cyn adolygiad y Cenhedloedd Unedig, yr amcangyfrifwn y bydd yn digwydd yn 2024.
4. Cenhedloedd Unedig yn archwilio'r llywodraeth
- Yn seiliedig ar yr amserlen bresennol, rydym yn amcangyfrif y bydd adolygiad y Cenhedloedd Unedig yn cael ei gynnal yn 2024.
5. Cenhedloedd Unedig yn cyhoeddi argymhellion
6. Llywodraeth yn gweithredu’r argymhellion
- Adroddiad gwladwriaeth y DU ar y gwaith dilynol i argymhellion blaenorol y DU (2015) ar atebolrwydd i ymyriadau â’r hawliau dynol a gyflawnwyd gan y fyddin Brydeinig dramor ac atebolrwydd ar ymyriadau yn gysylltiedig â gwrthdaro yng Ngogledd Iwerddon (wedi’i gyflwyno ym mis Awst 2016)
- Chwilio’r traciwr hawliau dynol am argymhellion ICCPR
Protocolau dewisol
Mae gan yr ICCPR ddau Brotocol Dewisol, sy’n gyfamodau atodol yn darparu hawliau neu brosesau pellach.
Mae’r Protocol Dewisol cyntaf yn galluogi pobl i gwyno’n uniongyrchol i’r Pwyllgor Hawliau Dynol os ydynt o’r farn y tramgwyddwyd ar eu hawliau. Dim ond pan fydd pob opsiwn domestig wedi ddisbyddu y gellir ei ddefnyddio. Nid yw’r Deyrnas Unedig wedi cofrestru ar gyfer hyn.
Mae’r Pwyllgor Hawliau Dynol wedi cyhoeddi nifer o Sylwadau Cyffredinol ar yr ICCPR. Mae’r rhain yn darparu manylion pellach ar sut ddylid dehongli hyn, gan drafod materion fel yr hawl i fywyd, rhyddid barn a mynegiant a pheidio gwahaniaethu.
Sylwadau cyffredinol
Mae’r Pwyllgor Hawliau Dynol wedi cyhoeddi nifer o Sylwadau Cyffredinol ar yr ICCPR. Mae’r rhain yn darparu manylion pellach ar sut ddylid dehongli hyn, gan drafod materion fel yr hawl i fywyd, rhyddid barn a mynegiant a pheidio gwahaniaethu.