Confensiwn yn erbyn Artaith a Thriniaeth neu Gosb Greulon, Annynol neu Israddol Arall (CAT)

Cytuniad y CU

Mae CAT yn gyfamod hawliau dynol rhyngwladol a fabwysiadwyd yn 1966. Fe gadarnhaodd (cytuno i ddilyn) y Deyrnas Unedig CAT yn 1988.

Trwy gadarnhau CAT, mae’r Deyrnas Unedig yn cytuno i weithredu i atal gweithredoedd artaith mewn perthynas â gweithgareddau sy’n cynnwys:

  • dychwelyd, alltudio neu estraddodi rhywun i wlad arall ble mae seiliau gwirioneddol i gredu y bydd wynebu artaith
  • arestio, cadw a charcharu
  • holiad
  • hyfforddi’r heddlu (sifil neu filwrol), staff meddygol, swyddogion cyhoeddus ac unrhyw un arall a allai fod yn ymwneud ag arestio, cadw a chwestiynu unigolyn

How the treaty is monitored

Mae gweithrediad y CAT yn cael ei fonitro gan y Pwyllgor yn erbyn Araith. Oddeutu pob pum mlynedd mae’r Pwyllgor yn adolygu pa mor dda mae pob gwladwriaeth yn rhoi hawliau’r CAT ar waith. Dysgwch fwy am y cylchoedd adolygu blaenorol.

Mae chwe cham i gylch y cyfamod. Gall sefydliadau cymdeithas sifil ymgysylltu trwy gydol y broses hon. Rydym wedi cynhyrchu canllaw i gymdeithas sifil gyda gwybodaeth ar sut i gymryd rhan. Mae yna hefyd wybodaeth bellach i sefydliadau cymdeithas sifil ar wefan y Cenhedloedd Unedig.

Confensiwn yn erbyn Artaith a Thriniaeth neu Gosb Greulon, Annynol neu Israddol Arall (CAT) treaty cycle

Mae’r cylch adolygu CAT ar hyn o bryd ar gam 3: rhanddeiliaid yn ymateb i’r Rhestr o Faterion.

  • Mae’r DU wedi derbyn y weithdrefn adrodd symlach ar gyfer yr adolygiad CAT nesaf.
  • Roedd adroddiadau rhanddeiliaid i fod i gael eu cyflwyno i’r Cenhedloedd Unedig ar 24 Ionawr 2022. Rydym yn deall mai dim ond ar ddiwedd mis Rhagfyr 2021 y cytunodd y Cenhedloedd Unedig ar y dyddiad cau hwn ac yn anffodus ni chyfathrebwyd hyn yn eang â rhanddeiliaid.

3. Rhanddeiliaid yn ymateb i restr o faterion

  • Disgwylir i’r DU gyflwyno ei hadroddiad y wladwriaeth erbyn 17 Mai 2023.
  • Bydd rhanddeiliaid eraill yn cael cyfle i ymateb i’r Rhestr o Faterion. Oherwydd ôl-groniadau’r Cenhedloedd Unedig, nid yw’n glir eto pryd fydd y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau.

• Yn seiliedig ar yr amserlen bresennol, rydym yn amcangyfrif y bydd adolygiad y Cenhedloedd Unedig yn cael ei gynnal yn 2024.

 

Protocolau dewisol

Mae gan y CAT un Protocol Dewisol. Mae hyn yn gyfamod atodol sy’n sefydlu Is-bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Atal Artaith a mecanweithiau ataliol cenedlaethol (NPMs). Dan y Protocol Dewisol hwn, rhaid i lywodraethau sefydlu NPMs i fonitro triniaeth pobl sydd wedi eu hamddifadu o’u rhyddid, gyda’r bwriad o gryfhau amddiffyniad rhag artaith a chamdriniaeth. Mae hyn wedi ei gadarnhau gan y llywodraeth ac mae yna Fecanwaith Ataliol Cenedlaethol i’r Deyrnas Unedig.

Darganfod mwy am y Protocol Dewisol.

Datganiad dan Erthygl 22

Gall llywodraethau wneud datganiad dan Erthygl 22 y CAT. Mae hyn yn cytuno i adael i bobl wneud cwynion unigol i’r Pwyllgor yn erbyn Araith os ydynt yn credu y tramgwyddwyd ar eu hawliau. Dim ond pan fydd pob opsiwn domestig wedi ddisbyddu y gellir ei ddefnyddio. Nid yw’r Deyrnas Unedig wedi gwneud datganiad.

Sylwadau cyffredinol

Mae’r Pwyllgor yn erbyn Araith wedi cyhoeddi nifer o Sylwadau Cyffredinol ar y CAT. Mae’r rhain yn darparu manylion pellach ar sut ddylid dehongli hyn. Mae’r sylwadau hyn yn cwmpasu materion fel y goblygiad i’r Wladwriaeth gymryd camau effeithiol i atal artaith a hawl dioddefwyr artaith a chamdriniaeth i gael unioniad.

Diweddarwyd ddiwethaf ar 08/12/2022