Confensiwn ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod (CEDAW)
Mae CEDAW yn gyfamod hawliau dynol rhyngwladol a fabwysiadwyd yn 1979. Fe gadarnhaodd (cytuno i ddilyn) y Deyrnas Unedig CEDAW yn 1986.
Trwy gadarnhau CEDAW, mae’r Deyrnas Unedig yn cytuno i gymryd camau i sicrhau mwynhad llawn menywod o hawliau dynol ar sail gyfartal gyda dynion, yn cynnwys:
- dileu rolau ystrydebol ar gyfer menywod a dynion
- sicrhau cyfranogiad cyfartal menywod mewn bywyd cyhoeddus
- cydraddoldeb gerbron y gyfraith
- diddymu gwahaniaethu mewn cyflogaeth
How the treaty is monitored
Mae gweithrediad y CEDAW yn cael ei fonitro gan y Pwyllgor ar Ddileu Gwahaniaethu yn erbyn Menywod. Oddeutu pob pum mlynedd mae’r Pwyllgor yn adolygu pa mor dda mae pob gwladwriaeth yn rhoi hawliau’r a gynhwysir yn y CEDAW ar waith. Dysgwch fwy am y cylchoedd adolygu blaenorol.
Mae chwe cham i gylch y cyfamod. Gall sefydliadau cymdeithas sifil ymgysylltu trwy gydol y broses hon. Mae gan y Cenhedloedd Unedig wybodaeth ar sut i gymryd rhan ar ei wefan.
Confensiwn ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod (CEDAW) treaty cycle
Mae cylch adolygu’r CEDAW ar hyn o bryd ar gam 6: Mae’r llywodraeth yn gweithredu ei argymhellion.
1. Adroddiad rhanddeiliaid ar gynnydd
- Adroddiad gwladwriaeth y DU (cyflwynwyd mis Tachwedd 2017).
- Ein hadroddiad (cyhoeddwyd mis Gorffennaf 2018).
- Adroddiadau rhanddeiliaid eraill (cyflwynwyd mis Mehefin 2018).
- Disgwylir i’r DU gyflwyno ei hadroddiad y wladwriaeth nesaf erbyn mis Mawrth 2023. Bydd y Cenhedloedd Unedig wedyn yn amserlennu’r archwiliad.
2. Y Cenhedloedd Unedig yn cyhoeddi rhestr o faterion
3. Rhanddeiliaid yn ymateb i restr o faterion
4. Cenhedloedd Unedig yn archwilio'r llywodraeth
- The examination took place in Geneva on digwyddodd yr archwiliad yn Genefa ar 26 Chwefror 2019 (fideo o’r archwiliad).
5. Cenhedloedd Unedig yn cyhoeddi argymhellion
- Y Cenhedloedd Unedig yn cyhoeddi argymhellion i’r DU (Mawrth 2019).
- Bydd y llywodraeth yn cyflwyno ei nawfed adroddiad cyfnodol erbyn Mawrth 2023.
6. Llywodraeth yn gweithredu’r argymhellion
- Adroddiad dilynol y wladwriaeth y DU (cyflwynwyd Mai 2021).
- Ein hadroddiad dilynol ar gynnydd y Llywodraeth wrth weithredu argymhellion y Cenhedloedd Unedig (cyflwynwyd Gorffennaf 2021).
- Asesiad y Cenhedloedd Unedig o adroddiad dilynol y wladwriaeth y DU (Tachwedd 2021).
- Chwilio’r traciwr hawliau dynol am argymhellion Confensiwn ar Ddileu Gwahaniaethu yn erbyn Menywod (CEDAW).
Protocolau dewisol
Mae gan y CEDAW un Protocol Dewisol. Mae hyn yn gyfamod ychwanegol sy’n galluogi pobl i gwyno’n uniongyrchol i’r Pwyllgor ar Ddileu Gwahaniaethu yn erbyn Menywod os ydynt o’r farn y tramgwyddwyd ar eu hawliau. Dim ond pan fydd pob opsiwn domestig wedi ddisbyddu y gellir ei ddefnyddio. Mae wedi ei gadarnhau gan y Deyrnas Unedig.
Gall y Pwyllgor hefyd gynnal ei ymholiadau ei hun, ble maent yn derbyn gwybodaeth ddibynadwy ar dramgwyddau difrifol, dwys neu systematig. Darllenwch am ymchwiliad y Pwyllgor ar gyfraith erthylu yng Ngogledd Iwerddon a gyhoeddwyd yn 2018.
Sylwadau cyffredinol
Mae’r Pwyllgor ar Ddileu Gwahaniaethu yn erbyn Menywod wedi cyhoeddi nifer o Argymhellion Cyffredinol ar CEDAW. Mae’r rhain yn darparu manylion pellach ar sut ddylid dehongli hyn, gan drafod materion fel trais yn erbyn menywod a merched, mynediad at gyfiawnder ac arferion niweidiol.