Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (ICESCR)
Mae’r ICESCR yn gyfamod hawliau dynol rhyngwladol a fabwysiadwyd yn 1966. Fe gadarnhaodd (cytuno i ddilyn) y Deyrnas Unedig yr ICESCR yn 1976.
Trwy gadarnhau’r ICESCR, mae’r Deyrnas Unedig yn cytuno i sicrhau mwynhad o hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol, yn cynnwys yr hawliau i:
- addysg
- amgylchiadau gwaith cyfiawn a theg
- safon byw digonol
- y safon iechyd gyflawnadwy uchaf
- nawdd cymdeithasol
How the treaty is monitored
Mae gweithrediad yr ICESCR yn cael ei fonitro gan y Pwyllgor ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol. Oddeutu pob pum mlynedd mae’r Pwyllgor yn adolygu pa mor dda mae pob gwladwriaeth yn rhoi hawliau’r ICESCR ar waith. Dysgwch fwy am gylchoedd adolygu blaenorol.
Mae chwe cham i gylch y cyfamod. Gall sefydliadau cymdeithas sifil ymgysylltu trwy gydol y broses hon. Mae gan wefan y Cenhedloedd Unedig ragor o wybodaeth ar sut i gymryd rhan.
Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (ICESCR) treaty cycle
Mae cylch adolygu y Cytuniad Rhyngwladol ar Hawliau Economiadd, Cymdeithasol a Diwylliannol (ICESCR) ar gam 1 ar hyn o bryd: adroddiad rhanddeiliaid ar gynnydd.
Sylwch mai amcangyfrifon yw rhai o’r amseroedd a roddir isod, yn enwedig o ganlyniad i’r pandemig Covid-19, a ysgogodd y Cenhedloedd Unedig i ganslo nifer o sesiynau Genefa. Caiff yr isod ei ddiweddaru pan fydd y Cenhedloedd Unedig yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth am yr amserlen ar gyfer adolygiad y DU.
1. Adroddiad rhanddeiliaid ar gynnydd
-
Dylai rhanddeiliaid gyflwyno eu hadroddiadau erbyn 5 Ionawr 2023.
2. Y Cenhedloedd Unedig yn cyhoeddi rhestr o faterion
- Bydd y Cenhedloedd Unedig yn mabwysiadu ei Restr o Faterion yn ystod cyfarfod Gweithgor Cyn-sesiynol ar 6-10 Mawrth 2023.
3. Rhanddeiliaid yn ymateb i restr o faterion
- Disgwylir i’r DU gyflwyno ei hadroddiad y wladwriaeth o fewn blwyddyn i gyhoeddi’r Rhestr o Faterion, yr amcangyfrifwn y bydd ym mis Mawrth 2024 ar y cynharaf.
- Dylai rhanddeiliaid eraill sydd am ymateb i’r Rhestr o Faterion gynllunio i gyflwyno eu hadroddiadau erbyn mis Mawrth 2024 ar y cynharaf.
4. Cenhedloedd Unedig yn archwilio'r llywodraeth
- Yn seiliedig ar yr amserlen bresennol, rydym yn amcangyfrif y bydd adolygiad y Cenhedloedd Unedig yn cael ei gynnal yn 2024.
5. Cenhedloedd Unedig yn cyhoeddi argymhellion
- Yn seiliedig ar yr amserlen bresennol, rydym yn amcangyfrif y bydd y Cenhedloedd Unedig yn cyhoeddi ei argymhellion i’r DU yn 2024.
- Cyhoeddodd y Cenhedloedd Unedig ei argymhellion diwethaf i’r DU (Mehefin 2016).
6. Llywodraeth yn gweithredu’r argymhellion
Protocolau dewisol
Mae gan yr ICESCR un Protocol Dewisol. Mae hyn yn gyfamod ychwanegol sy’n galluogi pobl i gwyno’n uniongyrchol i’r Pwyllgor ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol os ydynt o’r farn y tramgwyddwyd ar eu hawliau. Dim ond pan fydd pob opsiwn domestig wedi ddisbyddu y gellir ei ddefnyddio. Nid yw wedi ei gadarnhau gan y Deyrnas Unedig.
Sylwadau cyffredinol
Mae’r Pwyllgor ar Hawliau Economaidd, Diwylliannol a Chymdeithasol wedi cyhoeddi nifer o Sylwadau Cyffredinol ar ICESCR. Mae’r rhain yn rhoi rhagor o fanylion am sut y dylid ei ddehongli, gan gwmpasu materion fel yr hawliau i addysg, gwaith a nawdd cymdeithasol.