Ynghylch y traciwr hawliau dynol
Mae’r traciwr hawliau dynol yn offeryn ar-lein i olrhain pa mor dda mae’r Deyrnas Unedig yn rhoi ei ddyletswyddau hawliau dynol ar waith.
Mae’r traciwr yn cynnwys yr argymhellion diweddaraf a wnaed i’r deyrnas Unedig gan gyrff cyfamod y CU a’r Adolygiad Cyfnodol Cyffredinol (UPR). Caiff yr argymhellion eu hysgrifennu mewn iaith fwy syml i’w gwneud yn fwy hygyrch, ond fe ddarperir y geiriad gwreiddiol ar y cyd â hyn.
Mae’n eich galluogi i chwilio yn ôl Y Deyrnas Unedig a Cymru er mwyn i chi allu gweld pa lywodraeth sy’n gyfrifol am weithredu’r argymhellion. Mae’r argymhellion hefyd yn gysylltiedig i Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig.
Mae gan y traciwr dudalennau ar bob un o’r cyfamodau hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig mae’r Deyrnas Unedig wedi cytuno i’w dilyn, ac ar y broses UPR. Ar y tudalennau hyn fe welwch adnoddau defnyddiol, yn cynnwys ar pa gam ydyn ni ym mhob un o’r cylchoedd adrodd.
Sut i ddefnyddio’r traciwr hawliau dynol
Rydym eisiau i’r traciwr hawlia dynol godi ymwybyddiaeth o ddyletswyddau hawliau dynol y Deyrnas Unedig, i’ch helpu i fonitro pa mor dda maent yn cael eu rhoi ar waith, ac i’ch cefnogi i ddal y llywodraeth yn atebol. Gallwch ddefnyddio’r traciwr i:- ddysgu beth mae’r Cenhedloedd Unedig wedi ei ddweud am fater hawliau dynol penodol (fel addysg neu waith) neu grŵp poblogaeth (fel pobl anabl neu blant) yn y Deyrnas Unedig
- gael mynediad at wybodaeth ar y fframwaith hawliau dynol rhyngwladol i’w ddefnyddio yn eich gwaith ymchwil, cyfreithiol, polisi ac eiriolaeth
- ddysgu sut allwch chi ymgysylltu gyda mecanweithiau hawliau dynol rhyngwladol
- ddeall sut mae goblygiadau hawliau dynol rhyngwladol y Deyrnas Unedig yn gysylltiedig i Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig
Offer ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon
Mae Comisiwn Hawliau Dynol yr Alban: yn datblygu offeryn tebyg i ddangos sut mae llywodraeth yr Alban yn symud ymlaen gydag argymhellion y Cenhedloedd Unedig. Mae Comisiwn Hawliau Dynol Gogledd Iwerddon (NIHRC) yn cynhyrchu datganiad blynyddol ar hawliau dynol yng Ngogledd Iwerddon. Ewch i wefan NIHRC i gael gwybod mwy am y gwaith yma.
Diweddarwyd ddiwethaf ar 26/07/2022