Ein gwaith meithrin gallu
Caiff sicrhau cymdeithas sifil, gref, fywiog ei gydnabod mewn nifer o gytundebau hawliau dynol. Trwy ein gwaith meithrin gallu, byddwn yn helpu sefydliadau cymdeithas sifil yng Nghymru a Lloegr i ddeall eu hawliau, eu cefnogi i ymgysylltu â phrosesau hawliau dynol y CU fel modd o arddel yr hawliau hynny, ac annog ac amddiffyn eu gallu i siarad o blaid newid ar lefel domestig.
Fel rhan o’r gwaith hwn, rydym yn darparu sesiynau hyfforddi rhad ac am ddim i gyflwyno rhanddeiliaid i rwymedigaethau hawliau dynol rhyngwladol y DU ac arddangos sut i ddefnyddio’r traciwr hawliau dynol. Pe bai diddordeb gan eich sefydliad i gymryd rhan mewn un o’r sesiynau hyn, rhowch wybod i ni.
Cyhoeddom hefyd ymchwil newydd, wedi’i gynnal i’r Comisiwn gan Brifysgol Nottingham, sydd yn asesu maint ymgysylltiad cymdeithas sifil â chytundebau hawliau dynol y CU a mecanweithiau adolygu ac, yn allweddol, sut y gellir cryfhau’r ymgysylltiad hwn. Rydym yn defnyddio’r canfyddiadau ymchwil hyn i gynorthwyo’n gwaith meithrin-gallu gyda chymdeithas sifil.
Diweddarwyd ddiwethaf ar 26/01/2021