Ein methodoleg
Adolygodd y Comisiwn y camau mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi cymryd mewn perthynas â nifer o faterion hawliau dynol gwahanol, ac rydym wedi cynnal ein hasesiad ein hunain o unrhyw gynnydd a wnaed. Edrychom ar gamau a chynnydd ers 2016, gan adolygu Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar wahân i’r materion hawliau dynol hynny sydd wedi’u datganoli i Lywodraeth Cymru.
Cynlluniwyd ein hasesiadau cyhoeddedig i ddarparu trosolwg cryno, ac ni fwriedir iddynt ddarparu cyfrif cynhwysfawr o bob datblygiad yn perthyn i fater arbennig. Maent fodd bynnag wedi’u dilysu o ran ansawdd, eu profi a’u craffu gan arbenigwyr perthnasol ar draws y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i sicrhau eu bod yn deg, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn gadarn.
Gweithrediadau’r Llywodraeth
Pwrpas tudalennau ‘Gweithrediadau’r Llywodraeth’ yw darparu ciplun o’r camau allweddol a wnaed ac yn cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru mewn perthynas â materion hawliau dynol gwahanol. Ar gyfer pob un, ystyriom:
- Y newidiadau deddfwriaethol y cyflwynodd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, y newidiadau maent wedi ymrwymo iddynt neu wedi’u cefnogi ar gyfer y mater hwnnw
- Y prif ddiwygiadau polisi neu arfer a gyflwynodd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru neu maent wedi ymrwymo iddynt ar gyfer y mater hwnnw
Wrth benderfynu pa rai i gynnwys yn y ciplun, blaenoriaethom y gweithrediadau diweddaraf, a chamau pendant dros ymrwymiadau. Dangosir y gweithrediadau mewn trefn cronolegol, o’r newydd i’r hynaf.
Asesiadau cynnydd
Pwrpas ein tudalennau ‘Asesiad Cynnydd’ yw darparu trosolwg cryno o ba mor dda mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru’n cyflawni’u rhwymedigaethau hawliau dynol rhyngwladol.
Yn unol â’n fframwaith mesur i gydraddoldeb a hawliau dynol, adolygom gynnydd ar hawliau dynol trwy edrych ar ‘strwythur’, ‘proses’ a ‘deilliannau’. Yn syml, mae’r ‘strwythur’ yn ymwneud â’r gyfraith, y ‘broses’ i bolisïau’r llywodraeth a’u rhoi ar waith, a’r ‘deilliannau’ i brofiadau gwirioneddol pobl.
Seiliom ein hasesiadau ar dystiolaeth o ystod o ffynonellau, gan gynnwys:
- Ystadegau cenedlaethol;
- Ein hymchwil a dadansoddiad cyhoeddedig ein hunain;
- Adroddiadau ymchwiliad Seneddol;
- Adroddiadau ymchwiliad cyhoeddus, neu adolygiadau annibynnol a gomisiynwyd gan y Llywodraeth; a
- Thystiolaeth gadarn a gyhoeddwyd gan gymdeithas sifil, seiadau doethion ac academyddion.
Wrth gynnal ein hasesiadau, blaenoriaethom y newidiadau diweddaraf a’r rheiny sydd wedi effeithio’n fwyaf arwyddocaol ar hawliau dynol. Ystyriom unrhyw dystiolaeth o effaith gronnol newidiadau ac edrychom ar brofiadau grwpiau gwahanol, gan gynnwys y rheiny â nodweddion gwarchodedig.
Fe gynhwysom y meini prawf canlynol wrth neilltuo statws cynnydd i bob un mater hawliau dynol:
Statws cynnydd: | Meini prawf ar gyfer asesu: |
Cam yn ôl: Gwelwyd cam cyson neu ddifrifol yn ôl o ran mwynhad hawliau dynol, neu leihad arwyddocaol mewn safonau hawliau dynol neu amddiffyniadau dan y gyfraith neu bolisi. | Bu naill ai:
|
Dim cynnydd: Ni chafwyd unrhyw newidiadau cyfreithiol na pholisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol o ran y mater hwn, a thystiolaeth gyfyngedig iawn sydd o’r cynnydd o ran mwynhad o’r hawliau hyn. | Bu:
|
Cynnydd cyfyngedig: Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol, ond mae tystiolaeth gyfyngedig iawn o welliannau parhaus o ran mwynhad hawliau dynol ar y mater hwn. | Bu:
|
Elfen o gynnydd: Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol ac mae tystiolaeth o gynnydd cynaliadwy cymedrol o ran mwynhau hawliau dynol yn gysylltiedig i’r mater hwn. Fodd bynnag, ar rai o’r hawliau hyn, neu i rai grwpiau, ni chafwyd cynnydd cymharol.. | Bu:
|
Cynnydd parhaus: Bu newidiadau cyfreithiol a pholisi i wella amddiffynfeydd hawliau dynol, a chynnydd parhaus wrth fwynhau hawliau dynol yn ymwneud â’r mater hwn ar gyfer y boblogaeth ehangach a/neu grwpiau penodol. | Bu:
|