Protocol Dewisol i’r Confensiwn yn erbyn Artaith (OPCAT)
Cytuniad atodol yw OPCAT i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig yn erbyn Artaith (CAT). Gwnaeth y DU gadarnhau (cytuno i ddilyn) OPCAT yn 2003.
Sefydlodd OPCAT yr Is-bwyllgor ar Atal Artaith a Thriniaeth neu Gosb Greulon, Annynol neu Ddiraddiol eraill (SPT). Nod pennaf SPT, sydd yn cynnwys 25 o arbenigwyr annibynnol a diduedd, yw atal artaith a chamdriniaeth. Bydd SPT yn ymweld â llefydd lle caiff pobl eu hamddifadu o’u rhyddid er mwyn archwilio amodau cadw. Bydd hefyd yn helpu Gwladwriaethau i sefydlu cyrff cenedlaethol i fonitro lleoedd cadw ac atal artaith a chamdriniaeth. Gelwir y cyrff hyn yn Fecanweithiau Ataliol Cenedlaethol.
Drwy gadarnhau OPCAT, cytuna’r DU i:
- Ganiatáu aelodau SPT i ymweld â lleoedd lle caiff pobl eu harestio, carcharu neu gadw’n gaeth – megis gorsafoedd yr heddlu, carchardai (y fyddin a sifiliaid), canolfannau cadw mewnfudwyr, a sefydliadau iechyd meddwl a gofal cymdeithasol
- Sefydlu Mecanwaith Ataliol Cenedlaethol i fonitro’n annibynnol cadw a charcharu pobl yn y DU
Sefydlodd y DU Fecanwaith Ataliol Cenedlaethol yn 2009.
Sut mae SPT yn cynnal ei waith monitro?
Bydd yr SPT yn casglu gwybodaeth drwy gynnal ymweliadau â gwledydd. Yn ystod yr ymweliadau hyn, bydd gan aelodau’r SPT fynediad anghyfyngedig i gwrdd ag unrhyw un sydd yn gallu darparu gwybodaeth berthnasol am amodau cadw, gan gynnwys:
- Pobl sydd yn cael eu hamddifadu o’u rhyddid
- Swyddogion llywodraeth
- Aelodau’r Mecanwaith Ataliol Cenedlaethol
- Cynrychiolwyr sefydliadau hawliau dynol cenedlaethol
- Sefydliadau anllywodraethol
- Staff carcharu
- Cyfreithwyr
- Doctoriaid
- Aelodau teulu’r sawl sydd yn cael ei gadw’n gaeth
Pan ddaw ei ymweliad i ben, bydd yr SPT yn llunio dau adroddiad yn cynnwys sylwadau ac argymhellion. Bydd un adroddiad i Lywodraeth y DU a’r llall i’r Mecanwaith Ataliol Cenedlaethol. Bydd y ddau adroddiad yn gyfrinachol, a gallai Llywodraeth y DU a’r Mecanwaith Ataliol Cenedlaethol ddewis i’w cyhoeddi.
Bydd gan Lywodraeth y DU wedyn chwe mis i lunio ymateb ysgrifenedig i SPT, gan amlinellu’i chynnydd wrth roi’r argymhellion ar waith. Mae ymateb Llywodraeth y DU i SPT yn gyfrinachol, er y gallai Llywodraeth y DU ddewis i gyhoeddi’i hadroddiad.
Os bydd Llywodraeth y DU yn methu cyd-weithio yn ystod ymweliad SPT, neu’n methu â rhoi argymhellion SPT ar waith, gall yr SPT gyhoeddi’i adroddiad, neu ofyn i’r Pwyllgor yn erbyn Artaith wneud datganiad cyhoeddus.
Bydd y Mecanwaith Ataliol Cenedlaethol yn cefnogi Llywodraeth y DU drwy ddarparu cyngor ar sut i gydymffurfio ag argymhellion yr SPT.
Adnoddau defnyddiol
- Ceir rhestr o bob ymweliad SPT i’r DU fan’ma.
- Digwyddodd ymweliad cyntaf yr SPT â’r DU ym mis Medi 2019. Yn dilyn hynny, lluniodd yr SPT dau adroddiad – un ar gyfer Llywodraeth y DU ac un ar gyfer y Mecanwaith Ataliol Cenedlaethol.
- Ceir Adroddiadau Blynyddol yr SPT fan’ma.
- Ceir adroddiadau blynyddol Mecanwaith Ataliol Cenedlaethol y DU fan’ma.