Adolygiad Cyfnodol Cyffredinol (UPR)

Cytuniad y CU

Mae’r DU yn cymryd rhan yn yr Adolygiad Cyfnodol Cyffredinol (UPR). Mae hon yn broses adolygu gan gymheiriaid a gynhelir gan Gyngor Hawliau Dynol y CU i asesu’r sefyllfa hawliau dynol ym mhob un o Aelod-wladwriaethau’r Cenhedloedd Unedig.

Mae’r UPR yn asesu i ba raddau y mae gwladwriaethau’n rhoi hawliau dynol ar waith, gan edrych ar rwymedigaethau hawliau dynol pob gwladwriaeth fel y nodir yn:

How the treaty is monitored

O dan yr UPR, adolygir sefyllfa hawliau dynol pob Aelod-wladwriaeth y Cenhedloedd Unedig bob 5 mlynedd. Cynhelir yr adolygiad gan y Grŵp Gwaith UPR, sy’n cynnwys y 47 aelod o Gyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig. Dysgwch fwy am y cylchoedd adolygu blaenorol.

Mae pedwar cam yng nghylchred yr UPR.

 Ymgysylltu a chyfranogiad

Gall sefydliadau cymdeithas sifil a rhanddeiliaid eraill gymryd rhan yng nghylchred yr Adolygiad Cyfnodol Cyffredinol (UPR). Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi darparu gwybodaeth am sut i gymryd rhan.  Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth hefyd ar UPR Info.

Ein nod yw cefnogi sefydliadau cymdeithas sifil i ddeall ac ymgysylltu â’r broses fonitro. Er enghraifft, efallai y byddwn yn cynnal gwe-seminarau neu drafodaethau bord gron, yn comisiynu sefydliadau i gynhyrchu adroddiadau ar ran cymdeithas sifil ehangach, neu’n darparu cymorth ariannol i gynyddu cyfranogiad mewn sesiynau tystiolaeth lafar y Cenhedloedd Unedig.

Byddwn yn comisiynu hyd at uchafswm o un prosiect cymdeithas sifil fesul cylchred. Yn fwyaf diweddar, fe wnaethom ddarparu cyllid i Brifysgol Dinas Birmingham a siambrau bargyfreithwyr 4 King’s Bench Walk, Inner Temple, fel rhan o’r cylchred adrodd presennol i gyflawni gweithgareddau ar gyfer grymuso cymdeithas sifil yn yr UPR.

Diweddarwyd ddiwethaf ar 16/12/2025