Confensiwn Rhyngwladol ar Ddiddymu Pob Math o Wahaniaethu Hiliol (CERD)

Cytuniad y CU

Cytuniad hawliau dynol rhyngwladol yw CERD a fabwysiadwyd ym 1965. Cadarnhaodd y DU (cytuno i ddilyn) CERD ym 1969. Drwy gadarnhau CERD, mae’r DU yn cytuno i gymryd camau i ddileu gwahaniaethu ar sail hil o bob math, gan gynnwys:

  • dileu casineb hiliol ac anogaeth i gasineb
  • cymryd camau i frwydro yn erbyn rhagfarnau sy’n arwain at wahaniaethu ar sail hil
  • gwarantu mwynhad o hawliau sifil, gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol heb wahaniaethu ar sail hil, lliw, neu darddiad cenedlaethol neu ethnig

How the treaty is monitored

Mae gweithrediad CERD yn cael ei fonitro gan Bwyllgor y CU ar Ddileu Gwahaniaethu ar sail Hil. Bob pum mlynedd, mae’r Pwyllgor yn adolygu pa mor dda y mae pob gwladwriaeth yn rhoi’r hawliau yn CERD ar waith. Darganfod mwy am gylchoedd adolygu blaenorol.

Ymgysylltu a chyfranogiad

Gall sefydliadau cymdeithas sifil a rhanddeiliaid eraill ymgysylltu drwy gydol y cylch monitro cytuniadau. Mae’r CU wedi darparu gwybodaeth ar sut i gymryd rhan. Cynhyrchwys canllaw ar gyfer cymdeithas sifil gyda gwybodaeth ar sut i gymryd rhan.

Er enghraifft, efallai y byddwn yn cynnal gweminarau neu drafodaethau bord gron, yn comisiynu sefydliadau i gynhyrchu adroddiadau ar ran y gymdeithas sifil ehangach, neu’n darparu cymorth ariannol i gynyddu cyfranogiad yn sesiynau tystiolaeth lafar y Cenhedloedd Unedig.

Byddwn yn comisiynu hyd at uchafswm o un prosiect cymdeithas sifil fesul cylch. Yn fwyaf diweddar fe wnaethom ddarparu cyllid i’r Runnymede Trust a Race Equality First fel rhan o’r cylch adrodd presennol i gynhyrchu adroddiadau cymdeithas sifil ar gyfer Cymru a Lloegr.

Confensiwn Rhyngwladol ar Ddiddymu Pob Math o Wahaniaethu Hiliol (CERD) treaty cycle

Mae cylch adolygu’r CERD ar hyn o bryd ar cam 6: Llywodraeth yn gweithredu argymhellion.

Adroddir i’r Pwyllgor ar Ddileu Gwahaniaethu ar sail Hil o dan y weithdrefn adrodd safonol.

Mae’r amseriadau a roddir isod yn amcangyfrifon a gallant newid, yn enwedig o ganlyniad i oedi ac ôl-groniadau yn y Cenhedloedd Unedig. Gall amseriadau newid hefyd oherwydd cynlluniau’r Cenhedloedd Unedig i symud i gylch adolygu wyth mlynedd rhagweladwy ar gyfer pob corff cytuniad. Gall dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth gael eu cadarnhau gan y Cenhedloedd Unedig ar fyr rybudd, felly cynghorir rhanddeiliaid sy’n dymuno cyflwyno i baratoi ymlaen llaw.

 

Optional protocols

Datganiad o dan Erthygl 14 o CERD

Gall llywodraethau wneud datganiad o dan Erthygl 14 o CERD sy’n cytuno i adael i unigolion neu grwpiau wneud cwynion i’r Pwyllgor ar Ddileu Gwahaniaethu ar sail Hil os ydynt yn credu bod eu hawliau wedi’u torri. Dim ond pan fydd yr holl sianeli domestig wedi dod i ben y gellir ei ddefnyddio. Nid yw’r DU wedi gwneud datganiad o’r fath.

General comments

Mae’r Pwyllgor ar Dddileu Gwahaniaethu ar Sail Hil wedi cyhoeddi nifer o Argymhellion Cyffredinol ar CERD. Mae’r rhain yn rhoi rhagor o fanylion ynghylch sut y dylid dehongli’r cytuniad, gan gwmpasu materion fel iaith casineb hiliol, gwahaniaethu ar sail hil yn y system cyfiawnder troseddol a gwahaniaethu yn erbyn pobl nad ydynt yn ddinasyddion.

Diweddarwyd ddiwethaf ar 24/03/2025