Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (ICESCR)
Mae ICESCR yn gytuniad hawliau dynol rhyngwladol a fabwysiadwyd ym 1966. Cadarnhaodd y DU (cytuno i ddilyn) ICESCR ym 1976. Drwy gadarnhau ICESCR, mae’r DU yn cytuno i sicrhau mwynhad o hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol, gan gynnwys yr hawliau i:
- addysg
- amodau gwaith teg a chyfiawn
- safon byw ddigonol
- y safon iechyd uchaf y gellir ei chyrraedd
- nawdd cymdeithasoeducation
How the treaty is monitored
Mae gweithrediad yr ICESCR yn cael ei fonitro gan Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol. Oddeutu pob pum mlynedd mae’r Pwyllgor yn adolygu pa mor dda mae pob gwladwriaeth yn rhoi hawliau’r ICESCR ar waith. Dysgwch fwy am gylchoedd adolygu blaenorol.
Mae chwe cham i gylch y cytuniad – gweler cylch cytuniad ICESCR isod i gael rhagor o wybodaeth am bob cam.
Ymgysylltu a chyfranogiad
Gall sefydliadau cymdeithas sifil a rhanddeiliaid eraill ymgysylltu drwy gydol y cylch monitro cytuniadau. Mae’r CU wedi darparu gwybodaeth ar sut i gymryd rhan.
Rydym wedi datblygu cyfres o diwtorialau fideo a deunyddiau ysgrifenedig ar y cyd â Phrifysgol Nottingham i godi ymwybyddiaeth o hawliau cymdeithasol-economaidd.
Ein nod yw cefnogi sefydliadau cymdeithas sifil i ddeall ac ymgysylltu â’r broses fonitro. Er enghraifft, efallai y byddwn yn cynnal gweminarau neu drafodaethau bord gron, yn comisiynu sefydliadau i gynhyrchu adroddiadau ar ran y gymdeithas sifil ehangach, neu’n darparu cymorth ariannol i gynyddu cyfranogiad yn sesiynau tystiolaeth lafar y CU.
Byddwn yn comisiynu hyd at uchafswm o un prosiect cymdeithas sifil fesul cylch. Yn fwyaf diweddar fe wnaethom ddarparu cyllid i Just Fair fel rhan o’r cylch adrodd presennol i gynhyrchu adroddiad cymdeithas sifil ar y cyd.
Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (ICESCR) treaty cycle
Mae cylch adolygu ICESCR ar hyn o bryd ar gam 5: Cenhedloedd Unedig yn cyhoeddi argymhellion.
Adroddir i’r Pwyllgor ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol o dan y weithdrefn adrodd safonol.
Mae’r amseriadau a roddir isod yn amcangyfrifon a gallant newid, yn enwedig o ganlyniad i oedi ac ôl-groniadau yn y CU. Gall amseriadau newid hefyd oherwydd cynlluniau’r CU i symud i gylch adolygu wyth mlynedd rhagweladwy ar gyfer pob corff cytuniad. Gall dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth gael eu cadarnhau gan y CU ar fyr rybudd, felly cynghorir rhanddeiliaid sy’n dymuno cyflwyno i baratoi ymlaen llaw.
1. Adroddiad rhanddeiliaid ar gynnydd
2. Y Cenhedloedd Unedig yn cyhoeddi rhestr o faterion
3. Rhanddeiliaid yn ymateb i restr o faterion
4. Cenhedloedd Unedig yn archwilio'r llywodraeth
- Cynhaliwyd archwiliad y CU ar 13 a 14 Chwefror 2025 (fideo yr archwiliad)
5. Cenhedloedd Unedig yn cyhoeddi argymhellion
6. Llywodraeth yn gweithredu’r argymhellion
Optional protocols
Mae gan ICESCR un Protocol Dewisol. Mae hwn yn gytuniad ychwanegol sy’n caniatáu i bobl gwyno’n uniongyrchol i’r Pwyllgor ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol os ydynt yn credu bod eu hawliau wedi’u torri. Dim ond pan fydd yr holl sianeli domestig wedi dod i ben y gellir ei ddefnyddio. Nid yw wedi cael ei gadarnhau gan y DU.
General comments
Mae’r Pwyllgor ar Hawliau Economaidd, Diwylliannol a Chymdeithasol wedi cyhoeddi nifer o Sylwadau Cyffredinol ar ICESCR. Mae’r rhain yn rhoi rhagor o fanylion am sut y dylid ei ddehongli, gan gwmpasu materion fel yr hawliau i addysg, gwaith a nawdd cymdeithasol.