Ynghylch y traciwr hawliau dynol

Offeryn ar-lein chwiliadwy yw’r traciwr hawliau dynol sy’n rhoi trosolwg o’r camau y mae llywodraethau’r DU a Chymru wedi’u cymryd i gyflawni argymhellion y Cenhedloedd Unedig (CU).

Mae’r traciwr yn cynnwys yr holl argymhellion diweddaraf a wnaed i’r deyrnas Unedig gan gyrff cytuniad y CU a’r Adolygiad Cyfnodol Cyffredinol (UPR). Caiff yr argymhellion eu hysgrifennu mewn iaith fwy syml i’w gwneud yn fwy hygyrch, ond fe ddarperir y geiriad gwreiddiol ar y cyd â hyn.

Mae’n eich galluogi i chwilio yn ôl y Deyrnas Unedig a Chymru er mwyn i chi allu gweld pa lywodraeth sy’n gyfrifol am weithredu’r argymhellion. Mae’r argymhellion hefyd yn gysylltiedig i Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig.

Mae gan y traciwr dudalennau ar bob un o’r cytuniadau hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig mae’r Deyrnas Unedig wedi cytuno i’w dilyn, ac ar y broses UPR. Ar y tudalennau hyn fe welwch adnoddau defnyddiol, yn cynnwys ar pa gam ydyn ni ym mhob un o’r cylchoedd adrodd.

Diweddarwyd ddiwethaf ar 04/02/2025