Ynglŷn â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Ein rôl
Mae gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, sefydliadau hawliau dynol cenedlaethol eraill y DU (NHRIs), y Senedd a chymdeithas sifil oll rôl i’w chwarae wrth ddwyn y llywodraeth i gyfrif am ei hanes hawliau dynol. Fel NHRI, un o’n swyddi yw monitro cydymffurfiaeth y DU â’r saith cytuniad hawliau dynol y Cenhedloedd Unedig y mae wedi’u llofnodi a’u cadarnhau (cytuno i ddilyn). Rydym yn monitro perfformiad llywodraeth y DU ar draws y cytuniadau hyn, ac yn darparu gwybodaeth i’r Cenhedloedd Unedig yn yr hyn a elwir yn ‘adroddiadau cysgodol’. Rydym yn gweithio’n agos gyda NHRIau eraill y DU ar fonitro cydymffurfiaeth â rhwymedigaethau hawliau dynol rhyngwladol y DU: Comisiwn Hawliau Dynol yr Alban, yr ydym yn rhannu ein cylch gwaith ag ef yn yr Alban, a Chomisiwn Hawliau Dynol Gogledd Iwerddon (NIHRC). Darllenwch fwy am ein rôl yn monitro cydymffurfiaeth â safonau hawliau dynol rhyngwladol ym Mhrydain Fawr.