Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol (ICCPR)

Cytuniad y CU

Mae’r ICCPR yn gyfamod hawliau dynol rhyngwladol a fabwysiadwyd yn 1966. Fe gadarnhaodd (cytuno i ddilyn) y Deyrnas Unedig yr ICCPR yn 1976. Mae hawliau ICCPR yn galluogi pobl i fwynhau amrywiaeth eang o hawliau dynol, yn cynnwys rhai’n ymwneud â:

  • rhyddid i beidio dioddef artaith neu driniaeth neu gosb greulon, annynol neu israddol arall
  • hawliau i dreial teg
  • rhyddid i syniadau, crefydd a mynegiant
  • preifatrwydd, cartref a bywyd teuluol
  • cydraddoldeb a pheidio gwahaniaethu

How the treaty is monitored

Mae gweithrediad ICCPR yn cael ei fonitro gan Bwyllgor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig (CU). Tua bob wyth mlynedd (o dan y cylch adolygu rhagweladwy newydd), mae’r Pwyllgor yn adolygu pa mor dda y mae pob gwladwriaeth yn rhoi’r hawliau yn yr ICCPR ar waith. Dysgwch fwy am y cylchoedd adolygu blaenorol. Mae chwe cham i gylchred y cytuniad – gweler cylch cytuniad yr ICCPR isod i gael rhagor o wybodaeth am bob cam.

Ymgysylltu a chyfranogiad

Gall sefydliadau cymdeithas sifil a rhanddeiliaid eraill ymgysylltu drwy gydol y cylch monitro cytuniadau. Mae’r CU wedi darparu gwybodaeth ar sut i gymryd rhan. Ein nod yw cefnogi sefydliadau cymdeithas sifil i ddeall ac ymgysylltu â’r broses fonitro. Er enghraifft, efallai y byddwn yn cynnal gweminarau neu drafodaethau bord gron, yn comisiynu sefydliadau i gynhyrchu adroddiadau ar ran y gymdeithas sifil ehangach, neu’n darparu cymorth ariannol i gynyddu cyfranogiad yn sesiynau tystiolaeth lafar y CU. Byddwn yn comisiynu hyd at uchafswm o un prosiect cymdeithas sifil fesul cylch.

Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Sifil a Gwleidyddol (ICCPR) treaty cycle

Mae cylch adolygu ICCPR ar hyn o bryd ar gam 6: Llywodraeth yn gweithredu argymhellion.

Adroddir i Bwyllgor Hawliau Dynol y CU o dan y weithdrefn adrodd symlach. Mae’r amseriadau a roddir isod yn amcangyfrifon a gallant newid, yn enwedig o ganlyniad i oedi ac ôl-groniadau yn y Cenhedloedd Unedig (CU). Gall dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno tystiolaeth gael eu cadarnhau gan y CU ar fyr rybudd, felly cynghorir rhanddeiliaid sy’n dymuno cyflwyno i baratoi ymlaen llaw.

Protocolau dewisol

Mae gan yr ICCPR ddau Brotocol Dewisol, sy’n gyfamodau atodol yn darparu hawliau neu brosesau pellach. Mae’r Protocol Dewisol cyntaf yn galluogi pobl i gwyno’n uniongyrchol i’r Pwyllgor Hawliau Dynol os ydynt o’r farn y tramgwyddwyd ar eu hawliau. Dim ond pan fydd pob opsiwn domestig wedi ddisbyddu y gellir ei ddefnyddio. Nid yw’r Deyrnas Unedig wedi cofrestru ar gyfer hyn. Mae’r Pwyllgor Hawliau Dynol wedi cyhoeddi nifer o Sylwadau Cyffredinol ar yr ICCPR. Mae’r rhain yn darparu manylion pellach ar sut ddylid dehongli hyn, gan drafod materion fel yr hawl i fywyd, rhyddid barn a mynegiant a pheidio gwahaniaethu.

Sylwadau cyffredinol

Mae’r Pwyllgor Hawliau Dynol wedi cyhoeddi nifer o Sylwadau Cyffredinol ar yr ICCPR. Mae’r rhain yn darparu manylion pellach ar sut ddylid dehongli hyn, gan drafod materion fel yr hawl i fywyd, rhyddid barn a mynegiant a pheidio gwahaniaethu.

Diweddarwyd ddiwethaf ar 25/04/2024