Gwahanu galwedigaethol – asesiad Llywodraeth y DU
Cynnydd cyfyngedig
Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol, ond mae tystiolaeth gyfyngedig iawn o welliannau parhaus o ran mwynhad hawliau dynol ar y mater hwn.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno rhai mesurau i gynyddu cyflogaeth rhai grwpiau sydd â nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys mewn sectorau penodol, ac mae’r rheoliadau ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi codi ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth o fylchau cyflog. Fodd bynnag, ni chafwyd llawer o effaith o ran mynd i’r afael â gwahanu galwedigaethol hyd yma. Mae menywod, pobl o leiafrifoedd ethnig a phobl anabl yn parhau i fod wedi’u gorgynrychioli mewn rolau â chyflogau isel, swyddi rhan-amser neu rolau ansicr. Roedd pobl ifanc a dynion o rai lleiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol o weithio mewn sectorau a gaewyd yn ystod pandemig coronafeirws (COVID-19).
- Mae rhoi’r rheoliadau ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar waith yn gam pwysig tuag at wella prosesau monitro ac adrodd, ond nid yw’n ofynnol i gyflogwyr fynd i’r afael â’r hyn sy’n achosi bylchau cyflog yn eu sefydliad.
- Gostyngodd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau o 18.2% yn 2016 i 15.5% yn 2020. Mae’r gwahaniaeth mewn cyflog rhwng y rhywiau yn dal i fod fwyaf mewn galwedigaethau sydd â chyflogau uchel, ond mae’r bwlch hwn yn parhau i ostwng.
- Gwnaed datblygiadau i gynyddu cyfran y gweithlu mewn rolau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) sy’n fenywod o 21% yn 2016 i 24% yn 2019.
- Fodd bynnag, mae menywod yn parhau i fod yn llai tebygol o gael eu cyflogi fel rheolwyr, cyfarwyddwyr neu uwch-swyddogion na dynion; ym mis Ebrill 2020, roedd 9% o fenywod wedi’u cyflogi mewn rolau o’r fath, o gymharu â 14% o ddynion. Mae menywod yn parhau i fod wedi’u tangynrychioli mewn prentisiaethau mewn sectorau megis adeiladu a pheirianneg hefyd sy’n tueddu i gynnig cyflogau a rhagolygon gwell na sectorau benywaidd yn bennaf, megis trin gwallt a gofal yn y blynyddoedd cynnar.
- Gostyngodd y bwlch cyflog ethnigrwydd yng Nghymru a Lloegr o 3.8% yn 2016 i 2.3% yn 2019, er bod tystiolaeth glir bod gwahanu galwedigaethol sy’n gysylltiedig ag ethnigrwydd. Yn 2018, dim ond 5% o weithwyr Du oedd yn gweithio fel rheolwyr gyfarwyddwyr neu uwch-swyddogion, o gymharu ag 11% o bobl Wyn Prydeinig. Roedd pobl o grwpiau ethnig Du (16%) a Gwyn Arall (15%) yn fwy tebygol o gael eu cyflogi mewn swyddi ‘elfennol’ – y math o alwedigaeth â’r lefel isaf o sgiliau.
- Mae pobl anabl yn parhau i fod yn fwy tebygol o weithio mewn galwedigaethau â chyflogau isel na phobl nad ydynt yn anabl ac maent yn llai tebygol o weithio mewn galwedigaethau â chyflogau uchel.
- Mae gwaith rhan-amser a hyblyg yn ffyrdd pwysig o alluogi rhai pobl i gymryd rhan yn y farchnad lafur, er bod cysylltiad agosach rhwng gwaith rhan-amser a gwaith â chyflogau isel a rolau ansicr. Mae menywod, pobl anabl, lleiafrifoedd ethnig a phobl ifanc wedi’u gorgynrychioli mewn gwaith rhan-amser a’r economi gìg, sy’n ffactor achosol allweddol yn y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, bylchau cyflog sy’n gysylltiedig ag anabledd a rhai bylchau cyflog sy’n gysylltiedig ag ethnigrwydd.
- Mae’r pandemig wedi tynnu sylw at natur ansicr yr economi gìg a’r sectorau sydd â chyflogau isel, lle mae menywod, menywod ifanc a rhai gweithwyr o leiafrifoedd ethnig wedi’u gorgynrychioli ac a oedd yn fwy tebygol o gael eu cau yn ystod y pandemig, megis y sectorau lletygarwch a manwerthu dianghenraid.
- Nid yw cynllun Ailgodi’n Gryfach Llywodraeth y DU ar gyfer twf 2021 a’i Chynllun ar gyfer Swyddi 2020 yn crybwyll mynd i’r afael â gwahanu galwedigaethol na’r ffactorau sy’n arwain at orgynrychioli menywod, pobl ifanc a rhai lleiafrifoedd ethnig mewn sectorau sydd mewn trafferthion.
- Ni wnaed cynnydd o ran rhoi’r cynllun ar gyfer cydraddoldeb rhwng y rhywiau ar waith. Hyd yn hyn, nid oes diweddariad ar gynnydd na gwerthusiad wedi cael eu cyhoeddi, er gwaethaf ymrwymiadau i wneud hynny.
- Canfu adroddiad blwyddyn yn ddiweddarach yn 2018 na wnaed cynnydd ar 12 o’r 14 o argymhellion yn Adolygiad McGregor-Smith o gynnydd pobl o leiafrifoedd ethnig yn y gweithle.