Casgliadau i gloi CERD 2024, paragraff 8

UN recommendation

Argymhelliad Cymreig clir

Dylai’r Llywodraeth:
Sicrhau bod llywodraethau datganoledig yn casglu ac yn cyhoeddi ystadegau tebyg ar hawliau grwpiau lleiafrifoedd ethnig ym mhob agwedd ar fywyd. Mae hyn yn berthnasol i Ogledd Iwerddon, yr Alban, Cymru, y tiriogaethau tramor, a dibyniaethau’r Goron. Dylid gwneud hyn i nodi gwahaniaethau ethnig, llywio penderfyniadau polisi i ddileu gwahaniaethu hiliol a gwerthuso eu heffaith. Dylai llywodraethau hefyd gysoni’r broses o gasglu data i fynd i’r afael â bylchau a materion o ran ansawdd, cysondeb a chymaroldeb. Mae hefyd yn argymell bod y parti Gwladol yn gwella’r broses o gasglu data ar leiafrifoedd ethnig sy’n wynebu gwahaniaethu lluosog, croestoriadol.


Original UN recommendation

The Committee reiterates its recommendation that the State party ensure that the devolved governments of Northern Ireland, Scotland and Wales and the governments of the overseas territories and the Crown dependencies systematically collect and publish comparable statistics on the enjoyment of rights by members of ethnic minorities in all fields of life, in order to identify ethnic disparities, to inform policy decisions aimed at eliminating racial discrimination and to evaluate their impact. It also recommends that the State party adopt all measures necessary to harmonize data collection and to address any weaknesses related to the completeness, quality, consistency and comparability of the data collected. It further recommends that the State party improve the collection of data on the situation of ethnic minorities facing multiple and intersecting forms of discrimination.

Date of UN examination

24/09/2024

Diweddarwyd ddiwethaf ar 25/04/2025