Aflonyddu a bwlio mewn ysgolion – asesiad Llywodraeth Cymru
Cynnydd cyfyngedig
Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol, ond mae tystiolaeth gyfyngedig iawn o welliannau parhaus o ran mwynhad hawliau dynol ar y mater hwn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi deddfu i wneud addysg cydberthynas a rhywioldeb yn elfen statudol o’r cwricwlwm newydd – gan sicrhau bod ysgolion yn mynd i’r afael â bwlio ac aflonyddu ar bob ffurf – ac mae wedi cynhyrchu canllawiau statudol i gefnogi gwrthfwlio. Fodd bynnag, nid oes dyletswydd ar ysgolion i gasglu tystiolaeth am achosion o fwlio o hyd. Mae’r diffyg data, a diffyg dangosyddion gan Lywodraeth Cymru i fesur gwelliannau mewn lefelau o fwlio, yn golygu ei bod yn anodd asesu cynnydd. Mae nifer y dysgwyr sy’n profi achosion o fwlio ac aflonyddu yn rheolaidd yn uchel, ac mae disgyblion sy’n rhannu rhai nodweddion gwarchodedig yn wynebu risg benodol.
- Mae’r cwricwlwm newydd i Gymru yn cynnwys gofyniad gorfodol i bob ysgol addysgu am gydberthynas a rhywioldeb, gyda’r nod o gefnogi dysgwyr i adnabod cydberthnasau iach a diogel a meithrin parch tuag at wahaniaethau rhwng pobl. Mae’r canllawiau drafft ar addysg cydberthynas a rhywioldeb yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion fynd i’r afael â bwlio ac aflonyddu ar bob ffurf. Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y cwricwlwm ar gyfer addysg cydberthynas a rhywioldeb a disgwylir y caiff y canllawiau terfynol eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr 2021.
- Mae canllawiau statudol Llywodraeth Cymru ar fwlio i ysgolion a gyhoeddwyd yn 2019 yn amlinellu ffurfiau gwahanol ar fwlio sy’n ymwneud â rhagfarn, ac yn tynnu sylw at strategaethau atal. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i atgyfnerthu’r canllawiau erbyn mis Gorffennaf 2022 gyda phwyslais ar weithdrefnau disgyblu ar gyfer mynd i’r afael â bwlio ar sail hunaniaeth mewn ysgolion.
- Nid oes trefniadau gorfodol i roi gwybod am achosion o fwlio ac aflonyddu a brofir gan blant, ac mae data swyddogol yn annigonol yn aml, sy’n golygu ei bod yn anodd monitro pa mor gyffredin yw bwlio ac aflonyddu. Galwodd Comisiynydd Plant Cymru ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno dyletswydd statudol ar ysgolion i gofnodi pob digwyddiad a math o fwlio. Mae cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol Llywodraeth Cymru yn cynnwys ymrwymiad i gryfhau dulliau casglu data ar fwlio ac aflonyddu hiliol mewn ysgolion.
- Mae cynllun cydraddoldeb strategol Llywodraeth Cymru yn cynnwys amcan i fynd i’r afael â bwlio, ond nid oes dangosyddion na dulliau i fonitro a gwerthuso camau gweithredu i ddangos bod yr amcan hwn wedi’i gyflawni.
- Mae dyletswydd gyfreithiol ar ysgolion yng Nghymru i gynnal yr hawl sylfaenol i blant fod yn rhydd rhag camdriniaeth ac felly mae’n rhaid iddynt fynd i’r afael â bwlio ar bob ffurf. Fodd bynnag, ychydig o ysgolion yng Nghymru sydd wedi nodi lleihau bwlio ar sail rhagfarn fel un o’u hamcanion cydraddoldeb.
- Dangosodd adroddiad diweddaraf Llywodraeth Cymru ar lesiant plant (2017–18) fod 35% o ddisgyblion ysgol uwchradd wedi cael eu bwlio yn ystod y deufis blaenorol. Roedd 9% wedi cael eu bwlio o leiaf unwaith yr wythnos ac roedd 19% wedi profi bwlio ar-lein. Nododd canran uwch o ferched na bechgyn eu bod wedi cael eu bwlio.
- Mae ymchwil yn dangos bod dysgwyr sy’n rhannu rhai nodweddion gwarchodedig yn profi cyfraddau anghymesur o fwlio.
- Canfu un astudiaeth fod 45% o bobl ifanc lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol (LHDT) yng Nghymru wedi profi bwlio ar sail hunaniaeth yn yr ysgol, a nododd 73% o ymatebwyr traws eu bod wedi cael eu bwlio. Mae cynllun gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru yn nodi bod angen canllawiau traws i ysgolion.
- Canfu astudiaeth arall fod hiliaeth yn gyffredin ar draws y system ysgolion, a nododd 63% o ymatebwyr eu bod nhw, neu rywun y maent yn ei adnabod, wedi bod yn destun hiliaeth yn yr ysgol. Nododd yr astudiaeth hefyd nad yw staff yn sylweddoli pa mor gyffredin yw hiliaeth.
- Dim ond tua hanner o bolisïau gwrthfwlio a chydraddoldeb ysgolion sy’n ystyried anghenion penodol disgyblion Sipsiwn, Roma a Theithwyr.