Gwahanu galwedigaethol – Gweithredu’r llywodraeth
Camau gweithredu Llywodraeth y DU
- Ym mis Mawrth 2021, fel rhan o’i chynllun Ailgodi’n Gryfach ar gyfer twf a Chyllideb 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai’n cynyddu’r cymelldaliad i fusnesau gyflogi prentis newydd i £3,000. Cyhoeddodd hefyd y byddai’n darparu £126 miliwn ychwanegol er mwyn treblu nifer yr hyfforddeiaethau.
- Ym mis Gorffennaf 2020, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei Chynllun ar gyfer Swyddi 2020, a oedd yn cynnwys ymrwymiadau i helpu pobl i ddod o hyd i waith a meithrin sgiliau. Ymhlith y rhain roedd: cynllun ‘Kickstart’, sef cronfa gwerth £2 biliwn i ddarparu lleoliadau gwaith chwe mis o hyd i bobl ifanc sy’n wynebu risg o ddiweithdra hirdymor; £111 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer hyfforddeiaethau i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed yn Lloegr; a chyllid i dreblu nifer y lleoliadau academi waith seiliedig ar sectorau yn Lloegr.
- Ym mis Gorffennaf 2019, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ddogfen Cydraddoldeb rhwng y rhywiau ar bob cam: cynllun ar gyfer newid, yn amlinellu cynlluniau i fynd i’r afael â gwahanu galwedigaethol ar sail rhywedd. Roedd y cynlluniau hyn yn cynnwys ymrwymiadau i atgyfnerthu’r sylfaen dystiolaeth ar achosion sylfaenol cyfyngu ar ddyheadau ac agweddau, gwella cyngor a chymorth mewn ysgolion i herio stereoteipiau rhyweddol, a buddsoddi mewn rhaglenni i gynyddu cyfranogiad mewn pynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg).
- Ym mis Tachwedd 2017, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ‘Gwella bywydau: dyfodol gwaith, iechyd ac anabledd’, sef strategaeth i annog miliwn o bobl anabl ychwanegol i ddod o hyd i waith erbyn 2027.
- Ym mis Gorffennaf 2017, cyhoeddwyd adroddiad Adolygiad annibynnol Taylor o Arferion Gwaith Modern a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU, a oedd yn cynnwys argymhellion ar gyfer hyrwyddo cydraddoldeb a thegwch mewn sectorau gwahanol o’r farchnad lafur. Nododd yr adroddiad y gallai cynyddu gwaith annodweddiadol, a chyfranogiad cynyddol menywod a gweithwyr hŷn, ysgogi mwy o hyblygrwydd. Yn 2018, cynhaliodd Llywodraeth y DU ymgyngoriadau ar bedwar o’r materion a gwmpesir gan yr adolygiad. Cyhoeddwyd ymateb Llywodraeth y DU i’r adolygiad a’i chynllun gweithredu ar gyfer rhoi’r argymhellion ar waith ym mis Rhagfyr 2018.
- Ym mis Ebrill 2017, daeth Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Gwybodaeth am y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau) 2017 i rym, sy’n ei gwneud yn ofynnol i holl gyflogwyr y sector preifat a’r sector gwirfoddol sydd â 250 o weithwyr neu fwy gyhoeddi gwybodaeth ragnodedig am ganlyniadau eu bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Ym mis Mawrth 2017, daeth Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Penodol ac Awdurdodau Cyhoeddus) 2017 i rym, sy’n cynnwys yr un gofynion adrodd ar gyfer holl gyflogwyr y sector cyhoeddus a restrir yn Lloegr sydd â 250 o weithwyr neu fwy, a nifer cyfyngedig o gyrff annatganoledig.
- Ym mis Chwefror 2017, cyhoeddwyd adolygiad annibynnol a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU o gynnydd pobl Dduon a lleiafrifoedd ethnig yn y gweithle, sef Adolygiad McGregor-Smith. Mae’r adroddiad yn cynnwys argymhellion ar gyfer busnesau a’r llywodraeth. Ym mis Hydref 2018, cyhoeddodd Llywodraeth y DU adroddiad blwyddyn yn ddiweddarach i asesu cynnydd cyflogwyr o ran rhoi argymhellion Adolygiad McGregor-Smith ar waith.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 12/07/2021