Aflonyddu a bwlio mewn ysgolion – Gweithredu’r llywodraeth
Camau gweithredu Llywodraeth y DU
- Ym mis Gorffennaf 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ddrafft diwygiedig o’i chanllawiau statudol ar gyfer ysgolion, ‘Keeping children safe in education 2021’, a ddaeth i rym ym mis Medi. Mae’r canllawiau diwygiedig yn cynnwys cyd-destun ar gyfer trais rhywiol ac aflonyddu rhywiol rhwng plant, a chyngor cliriach o ran sut y dylai staff ymateb, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a gafodd ei lansio ym mis Rhagfyr 2020.
- Ym mis Mehefin 2021, cyhoeddodd Ofsted ganfyddiadau adolygiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU o gam-drin rhywiol mewn ysgolion a cholegau a gwnaeth argymhellion er mwyn gwella prosesau diogelu. Mewn ymateb i hyn, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gymorth ychwanegol ar gyfer ysgolion er mwyn iddynt allu adnabod achosion o aflonyddu rhywiol yn well.
- Ym mis Ebrill 2021, sefydlodd Llywodraeth y DU linell gymorth newydd i roi gwybod am gam-drin rhywiol mewn ysgolion a cholegau. Ym mis Mehefin 2021, cafodd y llinell gymorth ei hestyn am bedwar mis arall.
- Ym mis Ebrill 2021, lansiodd Llywodraeth y DU broses gaffael i ddarparu cyllid ar gyfer 2021–2024 i sefydliadau sy’n helpu ysgolion i atal disgyblion rhag cael eu bwlio, gan gynnwys y rhai â nodweddion gwarchodedig.
- Ym mis Mehefin 2019, mabwysiadodd Llywodraeth y DU ganllawiau newydd ar addysg rhyw a pherthnasoedd ac addysg iechyd. Mae’r canllawiau hyn yn pennu y dylai disgyblion wybod am y mathau gwahanol o fwlio, gan gynnwys seiberfwlio, erbyn diwedd eu cyfnod yn yr ysgol gynradd, ynghyd ag effaith bwlio a ble i gael cymorth.
- Ym mis Ebrill 2019, cyhoeddodd Llywodraeth y DU god ymarfer statudol ar gyfer darparwyr llwyfannau cyfryngau cymdeithasol er mwyn helpu i atal bwlio ac ymddygiad niweidiol arall ar eu gwefannau.
- Ym mis Mai 2018, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gyngor i ysgolion ar drais rhywiol ac aflonyddu rhywiol rhwng plant. Mae’n trafod sut y dylid ymdrin â digwyddiadau a honiadau, a mesurau atal, gan gynnwys drwy’r cwricwlwm.
- Ym mis Gorffennaf 2017, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gyngor i ysgolion ar fynd i’r afael â bwlio a’i atal. Mae’r ddogfen hon yn nodi’r rhwymedigaeth ar ysgolion i sicrhau bod mesurau ar waith i fynd i’r afael â bwlio a’i atal.
Camau gweithredu Llywodraeth Cymru Mae polisi addysg wedi’i ddatganoli i Lywodraeth Cymru.
- Ym mis Mawrth 2021, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar ei chynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol drafft. Mae’r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol yn cynnig camau gweithredu er mwyn gwella canllawiau ar fwlio a mynd i’r afael â bwlio ar sail hunaniaeth mewn ysgolion, prifysgolion ac yn y gweithle.
- Yn 2020, gwnaeth Llywodraeth Cymru gynnwys nod hirdymor i waredu aflonyddu a bwlio ar sail nodweddion gwarchodedig yn ei Chynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2020–2024. Roedd nod tebyg yng nghynllun 2016–2020.
- Ym mis Ionawr 2020, diweddarodd Llywodraeth Cymru ganllawiau ar y cwricwlwm newydd i Gymru, gyda chanllawiau penodol i athrawon ar ddatblygu’r cwricwlwm er mwyn canolbwyntio ar effeithiolrwydd personol, gan gynnwys empathi, caredigrwydd a thrugaredd, cydberthnasau iach a deallusrwydd emosiynol.
- Yn 2019, lansiodd Llywodraeth Cymru ystod o ganllawiau i fynd i’r afael â bwlio mewn ysgolion,gan gynnwys canllawiau penodol i rieni a gofalwyr a chanllaw i bobl ifanc, a chanllawiau statudol, pecynnau cymorth gwrthfwlio a darpariaethau penodol ar fwlio sy’n ymwneud â rhagfarn ar gyfer ysgolion.
- Yn 2017, comisiynydd Llywodraeth Cymru adroddiad ar y rhwystrau rhag dysgu a wynebir gan ddysgwyr o ethnigrwydd du a chymysg. Mae’n cynnwys argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru er mwyn gwerthuso sut y rhoddir gwybod am ddigwyddiadau hiliol a sut y cânt eu cofnodi a’u monitro, ac i ddadansoddi data ar achosion o fwlio er mwyn sicrhau na chaiff hiliaeth ei chelu mewn categorïau megis achosion o fwlio sy’n ymwneud â golwg, iaith neu ddillad.
Gwnaed yr asesiad ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael i fyny hyd at 12/07/2021