Aflonyddu a bwlio mewn ysgolion – asesiad Llywodraeth y DU
Cynnydd cyfyngedig
Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol, ond mae tystiolaeth gyfyngedig iawn o welliannau parhaus o ran mwynhad hawliau dynol ar y mater hwn.
Croesewir canllawiau newydd Llywodraeth y DU ar addysg rhyw a pherthnasoedd ac addysg iechyd, ynghyd â chamau gweithredu a gymerwyd mewn ymateb i adroddiad Ofsted ar aflonyddu rhywiol. Mae diffyg data yn golygu ei bod yn anodd asesu cynnydd mewn perthynas â bwlio ac aflonyddu mewn ysgolion. Fodd bynnag, mae arolygon gan sefydliadau cymdeithas sifil yn awgrymu bod plant yn parhau i brofi achosion o fwlio ac aflonyddu sy’n gysylltiedig â nodweddion gwarchodedig. Nid yw’n ofynnol i ysgolion gofnodi achosion o fwlio ac aflonyddu heblaw am aflonyddu a cham-drin rhywiol, ac mae cyllid ar gyfer prosiectau i fynd i’r afael â bwlio wedi lleihau.
- Mae’n anodd dod i gasgliadau ynghylch tueddiadau o ran pa mor gyffredin yw bwlio ac aflonyddu am nad yw’n ofynnol i ysgolion gofnodi digwyddiadau, heblaw am achosion o aflonyddu a cham-drin rhywiol. Ni chaiff y data sydd ar gael eu casglu’n gyson sy’n golygu ei bod yn anodd i ysgolion ddatblygu strategaethau effeithiol ar gyfer mynd i’r afael â bwlio ac aflonyddu.
- Mae arolygon a gynhaliwyd gan sefydliadau cymdeithas sifil yn awgrymu bod plant ledled y DU yn parhau i brofi achosion o fwlio ac aflonyddu sy’n gysylltiedig â hil, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd, rhyw, hunaniaeth rhywedd ac ailbennu rhywedd, crefydd ac incwm yr aelwyd. Mae tystiolaeth bod plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr a phlant o hil gymysg yn fwy tebygol o gael eu bwlio, ac y gall plant ceiswyr lloches a ffoaduriaid fod yn fwy tebygol o brofi achosion o fwlio hefyd.
- Canfu adolygiad gan Ofsted o gam-drin rhywiol mewn ysgolion a cholegau fod rhai mathau o aflonyddu rhywiol wedi cael eu ‘normaleiddio’ ym mywydau rhai plant a phobl ifanc yn Lloegr.
- Dangosodd ymatebion i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth gan 15 o heddluoedd yn Lloegr gynnydd o 72% yn nifer yr ymosodiadau a gofnodwyd ar safleoedd ysgolion rhwng 2015 a 2019. Daeth dros 4,000 o adroddiadau o gam-drin ac aflonyddu rhywiol gan fyfyrwyr ysgolion a phrifysgolion i’r amlwg ym mis Mawrth 2021 yn dilyn ymgyrch ar-lein.
- Nid yw cyngor Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd yn 2017 ar fynd i’r afael â bwlio a’i atal yn nodi dull gweithredu penodol i ysgolion ei ddilyn, yn hytrach mae’n rhoi cryn ddisgresiwn i ysgolion, gan gynnwys ynghylch a ddylid cofnodi achosion o fwlio. Mae astudiaethau achos a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn cynnwys ysgolion sy’n ymateb i fwlio gan ddefnyddio cosbau, arferion adferol neu gyfuniad o’r rhain.
- Nid yw mynd i’r afael ag achosion o fwlio ac aflonyddu sy’n seiliedig ar hunaniaeth yn rhan orfodol o hyfforddiant athrawon. Canfu arolwg a gynhaliwyd yn 2019 na fyddai 27% o athrawon ysgol uwchradd yn teimlo’n hyderus yn ymdrin â digwyddiad rhywiaethol pe baent yn profi neu’n dyst i ddigwyddiad o’r fath yn yr ysgol; a nododd 64% eu bod yn ansicr, neu nad oeddent yn gwybod, a oedd polisïau ac arferion yn ymwneud ag atal rhywiaeth ar gael yn eu hysgol.
- Mae’r cwricwlwm addysg rhyw a pherthnasoedd ac addysg iechyd newydd yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion addysgu am wahanol fathau o fwlio, gan gynnwys seiberfwlio, a sut i gael cymorth. Mae gan athrawon ddisgresiwn o ran sut maent yn rhoi rhai agweddau ar y canllawiau ar waith, gan arwain at bryderon y bydd rhai plant yn llai gwybodus nag eraill, oni roddir hyfforddiant neu gymorth digonol i ysgolion. Nid oes hyfforddiant i athrawon ar sut i fynd i’r afael ag achosion o fwlio ac aflonyddu wedi cael ei baratoi i gyd-fynd â’r canllawiau.
- Ym mis Mawrth 2021, daeth cyllid Llywodraeth y DU ar gyfer prosiectau i fynd i’r afael ag achosion o fwlio disgyblion lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol (LHDT) i ben, a daeth cyllid ar gyfer prosiectau i fynd i’r afael ag achosion o fwlio grwpiau eraill mewn ysgolion, gan gynnwys plant ag anghenion addysgol arbennig neu anabledd, i ben ym mis Mawrth 2020. Mae’r cyllid a glustnodwyd ar gyfer 2021–2024 i helpu i fynd i’r afael â bwlio mewn ysgolion a’i atal yn sylweddol is na’r grantiau a glustnodwyd mewn blynyddoedd blaenorol.