Tai – asesu Llywodraeth Cymru
Cynnydd cyfyngedig
Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol, ond mae tystiolaeth gyfyngedig iawn o welliannau parhaus o ran mwynhad hawliau dynol ar y mater hwn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu er mwyn atal a lleihau digartrefedd, gwarchod hawliau tenantiaid, gwella cyflwr tai a chynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy. Fe gymerodd Llywodraeth Cymru fesurau hefyd i warchod pobl oedd yn cysgu allan yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19). Tra bo’r nifer o aelwydydd a asesir fel rhai digartref wedi gostwng, mae nifer yn parhau i wynebu bygythiad digartrefedd. Mae llawer o bobl yn parhau i fyw mewn tai gorlawn o ansawdd gwael ac mae prinder cronig tai fforddiadwy yn parhau i gael effaith niweidiol ar fywydau pobl anabl. Mae pobl sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn parhau i wynebu heriau penodol yn ymwneud â thai.
- Mae gan y newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 y potensial i ddarparu gwell amddiffyniad i denantiaid yng Nghymru.
- Fe gynyddodd yr aelwydydd sy’n wynebu bygythiad digartrefedd yn 2021/22 o 27% o’r flwyddyn flaenorol i 9,228. Fodd bynnag, yn dilyn codiadau cyson, fe ostyngodd y nifer o aelwydydd a aseswyd fel rhai digartref yn 2021/22 o 11%. Fe lwyddodd aelwydydd digartref i sicrhau llety mewn 34% o achosion.
- Rhwng 2016 a 2019, fe gynyddodd y nifer o bobl yr ystyrir eu bod yn cysgu allan yng Nghymru o 25%. Er gwaethaf camau i ddarparu tai argyfwng i bobl oedd yn cysgu allan yn ystod pandemig COVID-19, roedd nifer yn parhau i gysgu allan ym mis Hydref 2020. Mae data o fis Gorffennaf 2022 yn cyfleu darlun tebyg.
- Fe fynegodd adroddiad gan Lywodraeth Cymru yn 2017 nad yw adeiladu tai yn cynyddu ar y raddfa angenrheidiol i gwrdd â’r cynnydd yn nifer yr aelwydydd yng Nghymru.
- Fe ostyngodd cyfran y tai cymdeithasol nad ydynt yn cydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru o 21% yn 2015/16 i 7% yn 2018/19.
- Fe gynyddodd y nifer o garafanau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yr adroddwyd amdanynt yng Nghymru o 934 i 1,065 rhwng mis Ionawr 2017 a mis Ionawr 2022. Mae’r gyfran ar safleoedd awdurdodedig wedi gostwng rhywfaint yn ystod y cyfnod hwn. Nid yw cyflwyniad cynllun Galluogi Sipsiwn, Roma a Theithwyr hyd yma wedi arwain at gynnydd digonol mewn safleoedd i gwrdd â’r galw.
- Er gwaethaf diwygiadau polisi i’w croesawu, mae pobl anabl yn parhau i adrodd am brinder difrifol o dai hygyrch ar draws yr holl opsiynau llety ac nid ydynt yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i fyw’n annibynnol. Darganfu arolwg gan Lywodraeth Cymru yn 2020 fod 18% o denantiaid wedi’u nodi fel rhai sy’n byw mewn cartrefi anaddas i’w gofynion penodol nhw (er enghraifft, anableddau penodol).
- Mae grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn llai tebygol o fod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain na phobl Wyn. Tra bod 70% o bobl Wyn yn berchen ar eu cartrefi eu hunain, dim ond 23% o bobl Ddu sydd. Mae pobl Ddu yn fwy tebygol o rentu’n gymdeithasol, tra bod grwpiau ethnig eraill yn fwy tebygol o rentu’n breifat.
- Tra nad yw Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ymgorffori’r hawl i dai digonol o’r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol i ddeddfwriaeth sylfaenol ddomestig, cafodd ei ymrwymiad i gynnwys yr hawl mewn canllawiau statudol yn cyd-fynd â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 ei groesawu.
- Mae rhentau cymdeithasol wedi cynyddu yng Nghyrmu dros y pum mlynedd hyd mis Medi 2022, gan gyfrannu at gynnydd yn y gyfran o denantiaid tai cymdeithasol sy’n byw mewn ‘tlodi mewn gwaith’.