Tai – asesu Llywodraeth y DU
Cynnydd cyfyngedig
Cafwyd newidiadau cyfreithiol neu bolisi i wella amddiffyniadau hawliau dynol, ond mae tystiolaeth gyfyngedig iawn o welliannau parhaus o ran mwynhad hawliau dynol ar y mater hwn.
Arweiniodd camau gweithredu Llywodraeth y DU mewn ymateb i bandemig y coronafeirws (COVID-19) at leihad tymor byr mewn digartrefedd a chysgu allan. Mae lefelau digartrefedd wedi cynyddu ers hynny ond nid ydynt ar lefelau cyn y pandemig o hyd. Mae rhai camau’n cael eu cymryd i wella safonau tai, megis cynigion i ddeddfu darpariaethau yn Neddf Cydraddoldeb 2010 sy’n gysylltiedig ag addasiadau rhesymol yn rhannau cyffredin eiddo rhent a gofynion hygyrchedd uwch ar gyfer tai newydd. Mae prinder cronig o dai hygyrch o hyd, sy’n cael effaith niweidiol ar fywydau pobl anabl a phobl hŷn. Mae nifer o bobl yn parhau i fyw mewn tai gorlawn, anniogel o ansawdd isel. Mae Sipsiwn, Roma a Theithwyr a cheiswyr lloches yn wynebu heriau penodol yn ymwneud â thai.
- Yn 2021/22, cofnodwyd bod 278, 110 o aelwydydd yn ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref yn Lloegr, cynnydd o 9,550 ers y flwyddyn flaenorol.
- Amcangyfrifwyd bod 688 o bobl ddigartref wedi marw yng Nghymru a Lloegr yn 2020. Mae hyn yn cynrychioli’r gostyngiad cyntaf yn y nifer o farwolaethau tybiedig ers 2014.
- Fe ddisgynodd y nifer tybiedig o bobl sy’n cysgu allan ar un noson yn yr hydref yn Lloegr o 37% yn 2020 yn dilyn ymgyrch ‘Everyone In’ Llywodraeth y DU. Yn 2021, disgynnodd y nifer hwn am y bedwaredd flwyddyn yn olynol. Fodd bynnag, ceir pryderon y gallai’r argyfwng costau byw arwain at gynnydd mewn cysgu allan.
- Mae cyflwyniad Deddf Lleihau Digartrefedd 2017 wedi gwella gwasanaethau i’r rheini a fyddai cyn hynny wedi derbyn cefnogaeth gyfyngedig. Mewn ymateb i heriau wrth gyflwyno’r ddeddfwriaeth, cyhoeddodd Llywodraeth y DU gyllid ychwanegol yn y Grant Lleihau Digartrefedd.
- Roedd y gyfradd gorlewni gyffredinol yn Lloegr yn 2020/21 yn 3%, gydag oddeutu 738,000 yn byw mewn amgylchiadau gorlawn. Mae pobl sy’n byw yn y sector rhentu cymdeithasol neu breifat yn fwy tebygol o fyw mewn llety gorlawn – mae 8% o rentwyr cymdeithasol yn byw mewn cartrefi gorlawn.
- Yn Lloegr, mae pobl o leiafrifoedd ethnig yn anghymesur fwy tebygol o fyw mewn llety gorlawn ac mae pobl Ddu yn anghymesur fwy tebygol o gael eu hasesu i fod, neu o fod mewn perygl o fod, yn ddigartref.
- Mae prinder cronig o dai hygyrch ar draws Prydain, sy’n creu rhwystrau i hawliau pobl anabl a phobl hŷn i fyw’n annibynnol a chael eu cynnwys yn llawn mewn cymdeithas. Yn Lloegr, dim ond 9% o’r holl gartrefi sy’n cynnig yr isafswm o nodweddion hygyrchedd.
- Mae gan y cynigion a gafodd eu cynnwys ym mhapur polisi Sector Rhentu Preifat Decach (A Fairer Private Rented Sector) Llywodraeth y DU, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2022, y potensial i wella ansawdd cartrefi rhent a diogelwch tenantiaid yn Lloegr.
- Rydym wedi codi pryderon y bydd y drosedd newydd o dresmasu sy’n targedu gwersylloedd diawdurdod yn cael effaith negyddol ar Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
- Darganfu ymchwil fod newidiadau i bolisi cynllunio wedi arwain at awdurdodau lleol yn diystyru’r angen am lety i Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
- Darganfu adroddiad gan y Pwyllgor Materion Cartref yn 2018 bod llety ar gyfer ceiswyr lloches yn aml o ansawdd gwael ac nad oedd yn cwrdd ag anghenion penodol grwpiau megis goroeswyr artaith, menywod beichiog, mamau â phlant ifanc ac unigolion ag anhwylder straen ôl-drawmatig.
- Roedd y methiant i gael gwared ar neu wahardd cladin llosgadwy cyn tân Tŵr Grenfell yn cynrychioli methiant rhwymedigaethau hawliau dynol y DU i warchod bywydau a darparu tai diogel.